At Titus 2:1-15

  • Dysgeidiaeth synhwyrol ar gyfer hen ac ifanc (1-15)

    • Gwrthod ymddygiad annuwiol (12)

    • Selog dros weithredoedd da (14)

2  Ond tithau, parha i ddysgu i eraill yr hyn sy’n gyson â’r ddysgeidiaeth fuddiol.  Dylai’r dynion hŷn ymddwyn yn gytbwys, bod yn gyfrifol, yn eu hiawn bwyll, yn iach mewn ffydd, mewn cariad, mewn dyfalbarhad.  Yn yr un modd, dylai’r merched* hŷn ymddwyn mewn ffordd sy’n dod ag anrhydedd i Dduw, nid yn enllibus, nid yn gaeth i ormod o win, ond yn dysgu eraill beth sy’n dda,  er mwyn iddyn nhw allu cynghori’r* merched* iau i garu eu gwŷr, i garu eu plant,  i fod yn synhwyrol ac yn bur, i ofalu am eu cartrefi,* i fod yn dda, ac i ymostwng i’w gwŷr eu hunain, fel na fydd pobl yn gallu siarad yn gas am air Duw.  Yn yr un modd, parha i gymell y dynion iau i fod yn synhwyrol,  gan ddangos dy fod ti’n esiampl o weithredoedd da ym mhob ffordd. Dangosa dy fod ti o ddifri wrth iti ddysgu beth sy’n bur,*  gan ddefnyddio geiriau buddiol na all neb eu beirniadu, er mwyn codi cywilydd ar y rhai sy’n gwrthwynebu, gan na fydd ganddyn nhw rywbeth negyddol* i’w ddweud amdanon ni.  Dylai caethweision ymostwng i’w meistri ym mhob peth, gan geisio eu plesio nhw, heb ateb yn ôl, 10  nid yn dwyn oddi arnyn nhw, ond yn dangos eu bod nhw’n gwbl ddibynadwy, fel y byddan nhw ym mhob peth yn gallu dangos harddwch dysgeidiaeth ein Hachubwr, Duw. 11  Oherwydd mae caredigrwydd rhyfeddol Duw wedi cael ei amlygu, gan ddod ag achubiaeth i bobl o bob math. 12  Mae’n ein hyfforddi ni i wrthod ymddygiad annuwiol a chwantau bydol, ac i fyw mewn ffordd synhwyrol a chyfiawn sy’n dangos ein defosiwn duwiol yng nghanol y system bresennol hon,* 13  ac rydyn ni’n disgwyl i’r gobaith hapus gael ei gyflawni ac i’r Duw mawr a’n Hachubwr Iesu Grist ymddangos mewn gogoniant. 14  Fe wnaeth Crist ei roi ei hun droston ni i’n rhyddhau ni* o bob math o ddrygioni ac i’n glanhau ni er mwyn inni fod yn bobl sy’n eiddo arbennig iddo, sy’n selog dros weithredoedd da. 15  Dal ati i ddweud y pethau hyn ac i annog* a cheryddu â phob awdurdod. Paid â gadael i neb edrych i lawr arnat ti.

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “hyfforddi’r.”
Neu “menywod.”
Neu “i weithio yn y tŷ.”
Neu efallai, “wrth iti ddysgu â phurdeb.”
Neu “drwg.”
Neu “yr oes bresennol hon.” Gweler Geirfa.
Llyth., “i dalu pridwerth amdanon ni; i’n gwaredu ni.”
Neu “i gymell.”