At Titus 3:1-15

  • Ymostwng priodol (1-3)

  • Bod yn barod ar gyfer gweithredoedd da (4-8)

  • Gwrthod dadleuon ffôl a sectau (9-11)

  • Cyfarwyddiadau personol a chyfarchion (12-15)

3  Dal ati i’w hatgoffa nhw i ymostwng ac i ufuddhau i’r llywodraethau a’r awdurdodau, i fod yn barod ar gyfer pob gweithred dda,  i beidio â lladd ar neb,* i beidio â bod yn gwerylgar, ond i fod yn rhesymol, gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.  Oherwydd roedden ninnau hefyd ar un adeg yn annoeth, yn anufudd, wedi ein camarwain, yn gaethweision i amryw chwantau a phleserau, yn parhau i fyw bywydau llawn drygioni a chenfigen, yn ffiaidd, yn casáu ein gilydd.  Fodd bynnag, pan gafodd caredigrwydd ein Hachubwr, Duw, a’i gariad tuag at ddynolryw eu gwneud yn amlwg  (nid oherwydd unrhyw weithredoedd cyfiawn roedden ni wedi eu gwneud, ond oherwydd ei drugaredd ei hun), fe wnaeth ein hachub ni drwy gyfrwng y dŵr* a ddaeth â ni i fywyd a thrwy ein gwneud ni’n newydd drwy’r ysbryd glân.  Tywalltodd* yr ysbryd hwn arnon ni’n hael drwy Iesu Grist ein Hachubwr,  er mwyn i ni, ar ôl cael ein galw’n gyfiawn drwy garedigrwydd rhyfeddol yr un hwnnw, allu cael ein gwneud yn etifeddion yn ôl y gobaith o fywyd tragwyddol.  Mae’r geiriau hyn yn ddibynadwy, ac rydw i eisiau iti barhau i bwysleisio’r materion hyn, er mwyn i’r rhai sydd wedi credu yn Nuw roi eu meddwl ar ddal ati yn eu gweithredoedd da. Mae’r pethau hyn yn dda ac yn fuddiol i ddynion.  Ond cadwa’n glir oddi wrth ddadleuon ffôl ac achau ac anghytundebau a chwerylau ynglŷn â’r Gyfraith, oherwydd eu bod nhw’n ddiwerth ac yn ofer. 10  Os ydy dyn yn hyrwyddo gau ddysgeidiaethau,* ar ôl iddo gael ei rybuddio a’i ail rybuddio,* mae’n rhaid iti ei wrthod, 11  gan wybod bod dyn o’r fath wedi crwydro oddi wrth y ffordd ac yn pechu ac wedi ei gondemnio ei hun. 12  Pan anfona i Artemas neu Tychicus atat ti, gwna dy orau i ddod ata i yn Nicopolis, oherwydd fy mod i wedi penderfynu treulio amser yno dros y gaeaf. 13  Gwna bob ymdrech i helpu Senas, sy’n arbenigwr yn y Gyfraith, ac Apolos fel y bydd popeth ganddyn nhw ar gyfer eu taith. 14  Ond dylai ein pobl ni hefyd ddysgu i barhau mewn gweithredoedd da fel y byddan nhw’n gallu helpu mewn achosion o angen brys a bod yn gynhyrchiol.* 15  Mae pawb sydd gyda mi yn anfon eu cyfarchion atat ti. Rho fy nghyfarchion i’r rhai sy’n ein caru ni yn y ffydd. Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol fod gyda phob un ohonoch chi.

Troednodiadau

Neu “i beidio â siarad yn niweidiol am neb.”
Neu “y bath; y golchiad.”
Neu “Arllwysodd.”
Neu “yn hyrwyddo sect.”
Neu “ei geryddu a’i ail geryddu.”
Llyth., “yn ffrwythlon.”