Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau ar Gyfer Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth

Cyfarwyddiadau ar Gyfer Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth

Cynnwys

1. Bydd y cyfarwyddiadau yn y ddogfen hon yn helpu pawb sy’n cael rhan yng nghyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol. Dylai pawb adolygu’r cyfarwyddiadau yn y ddogfen hon ac yn Gweithlyfr Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol cyn paratoi ar gyfer eu rhan. Dylai pob cyhoeddwr gael ei ofyn os ydyn nhw’n fodlon i dderbyn aseiniadau’r myfyrwyr. Gall eraill sy’n cymdeithasu â’r gynulleidfa gael rhan os ydyn nhw’n cytuno â dysgeidiaethau’r Beibl ac yn byw yn unol ag egwyddorion Cristnogol. Dylai arolygwr Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth drafod y gofynion gydag unrhyw un sydd eisiau cael rhan ond sydd ddim eto’n gyhoeddwr, a gadael iddyn nhw wybod os ydyn nhw’n gymwys. Dylai hyn cael ei wneud yng nghwmni’r person sy’n astudio gyda nhw (neu yng nghwmni rhiant sy’n dyst). Mae’r gofynion yr un fath â’r gofynion i fod yn gyhoeddwr difedydd.—od-E pen. 8 par. 8.

 SYLWADAU AGORIADOL

2. Un munud. Bob wythnos, ar ôl y gân a’r weddi agoriadol, dylai cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth ennyn diddordeb yn y rhaglen i ddilyn. Dylai’r cadeirydd ganolbwyntio ar y pwyntiau a fydd o’r lles mwyaf i’r gynulleidfa.

  TRYSORAU O AIR DUW

 3Anerchiad: Deg munud. Bydd Gweithlyfr y Cyfarfodydd yn cynnwys y thema ac amlinelliad gyda dau neu dri phrif bwynt. Dylai’r anerchiad hwn gael ei aseinio i henuriad neu was y gynulleidfa cymwys. Pan fydd llyfr newydd yn y Beibl yn cael ei gychwyn yn y darlleniad wythnosol o’r Beibl, bydd fideo yn cael ei chwarae. Gall y siaradwr ddangos y cysylltiadau rhwng y fideo a’r thema. Ond, dylai wneud yn sicr ei fod yn cynnwys y pwyntiau yn y gweithlyfr. Hefyd, os bydd amser yn caniatáu, dylai wneud defnydd da o’r lluniau, sydd wedi eu dylunio i gyd-fynd â’r deunydd. Gallai gynnwys deunydd o gyfeiriadau eraill os ydyn nhw’n helpu i ddatblygu’r pwyntiau yn yr amlinelliad.

 4Cloddio am Drysor Ysbrydol: Deg munud. Mae hon yn eitem gwestiynau ac atebion heb gyflwyniad na diweddglo. Henuriad neu was y gynulleidfa cymwys sy’n cymryd yr eitem hon. Dylai’r siaradwr ofyn y ddau gwestiwn i’r gynulleidfa. Hefyd, gallai’r brawd benderfynu os oes angen darllen yr adnodau y cyfeirir atyn nhw. Dylai atebion o’r gynulleidfa fod yn llai na 30 eiliad.

 5Darlleniad o’r Beibl: Pedwar munud. Bydd yr eitem hon yn cael ei haseinio i ddyn neu i fachgen. Dylai’r myfyriwr ddarllen y deunydd sydd wedi cael ei aseinio heb gyflwyniad na diweddglo. Bydd cadeirydd y cyfarfod yn edrych am ffyrdd i helpu’r myfyrwyr i ddarllen gyda chywirdeb, rhugledd, naturioldeb, dealltwriaeth, pwyslais, goslef y llais, a seibio da. Gan fod rhai darlleniadau o’r Beibl yn amrywio o ran hyd, dylai arolygwr Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth ystyried galluoedd y myfyrwyr wrth eu haseinio.

 RHOI EIN SYLW I’R WEINIDOGAETH

6. Un deg pum munud. Bwriad y rhan hon o’r cyfarfod yw rhoi cyfle i bawb ymarfer ar gyfer y weinidogaeth ac i wella eu sgiliau sgwrsio, pregethu, a dysgu. Yn ôl yr angen, gall henuriaid dderbyn aseiniadau myfyrwyr hefyd. Dylai pob myfyriwr weithio ar y pwynt astudio o’r llyfrynnau Darllen a Dysgu neu Caru Pobl sy’n ymddangos yn y cromfachau wrth ymyl bob aseiniad yn Gweithlyfr y Cyfarfodydd. Ar adegau, bydd y rhaglen yn cynnwys trafodaeth. Henuriad neu was y gynulleidfa cymwys fydd yn cymryd eitem o’r fath.—Gweler  paragraff 15 ynglŷn â sut i gynnal trafodaeth.

 7Dechrau Sgwrs: Gall yr aseiniad myfyriwr hwn gael ei gyflwyno gan ddyn, dynes, neu blentyn. Dylai’r cynorthwyydd fod o’r un rhyw neu yn aelod o’r un teulu. Gall y myfyriwr a’r cynorthwyydd naill ai eistedd neu sefyll.—Am fwy o wybodaeth ar y cynnwys a’r cyd-destun ar gyfer yr aseiniad hwn, gweler  paragraffau 12 ac  13.

 8Parhau â’r Sgwrs: Gall yr aseiniad myfyriwr hwn gael ei gyflwyno gan ddyn, dynes, neu blentyn. Dylai’r cynorthwyydd fod o’r un rhyw. (km-E 5/97 p. 2) Gall y myfyriwr a’r cynorthwyydd naill ai eistedd neu sefyll. Dylai’r myfyriwr ddangos beth i’w ddweud wrth barhau â sgwrs o’r alwad gyntaf.—Am fwy o wybodaeth ar y cynnwys a’r cyd-destun ar gyfer yr aseiniad hwn, gweler  paragraffau 12 ac  13.

 9Gwneud Disgyblion: Gall yr aseiniad myfyriwr hwn gael ei gyflwyno gan ddyn, dynes, neu blentyn. Dylai’r cynorthwyydd fod o’r un rhyw. (km-E 5/97 p. 2) Gall y myfyriwr a’r cynorthwyydd naill ai eistedd neu sefyll. Dylai’r eitem ddangos rhan o astudiaeth Feiblaidd fel petai ei fod wedi cychwyn yn barod. Does dim angen cael cyflwyniad na diweddglo oni bai bod y myfyriwr yn gweithio yn benodol ar y gwersi hynny. Does dim rhaid darllen yn uchel bob paragraff dan sylw, ond gellir gwneud hynny.

 10Egluro Dy Ddaliadau: Pan mae’r eitem hon yn anerchiad, dylai gael ei haseinio i ddyn neu i fachgen. Pan mae’n ddangosiad, gall gael ei gyflwyno gan ddyn, dynes, neu blentyn. Dylai’r cynorthwyydd fod o’r un rhyw neu yn aelod o’r un teulu. Dylai’r myfyriwr ateb y cwestiwn yn y thema yn glir a gyda thact, gan ddefnyddio’r wybodaeth yn y cyfeiriad. Gall y myfyriwr ddewis naill ai i gyfeirio at y deunydd neu beidio.

 11Anerchiad: Dylai’r aseiniad myfyriwr hwn gael ei roi fel anerchiad i’r gynulleidfa gan ddyn neu fachgen. Pan mae’r anerchiad yn seiliedig ar bwynt o atodiad A o’r llyfryn Caru Pobl, dylai’r myfyriwr esbonio sut i ddefnyddio’r adnod(au) yn y weinidogaeth. Er enghraifft, gallai ef esbonio pryd i ddefnyddio adnod, ystyr yr adnod, a sut i resymu arni. Pan mae’r anerchiad yn seiliedig ar bwynt o un o’r gwersi yn y llyfryn Caru Pobl, dylai’r myfyriwr ganolbwyntio ar sut i ddefnyddio’r pwynt yn y weinidogaeth. Gall hefyd dynnu sylw at yr esiampl ym mhwynt 1 o’r wers neu dynnu sylw at adnodau ychwanegol yn y wers.

   12Cynnwys: Mae’r deunydd yn y paragraff hwn a’r nesaf yn berthnasol i’r aseiniadau “Dechrau Sgwrs” a “Parhau â’r Sgwrs.” Oni nodir yn wahanol, nod y myfyriwr ydy rhannu gwirionedd syml o’r Beibl a pharatoi’r ffordd ar gyfer y sgwrs nesaf. Dylai’r myfyriwr ddewis pwnc sy’n berthnasol ac yn effeithiol yn lleol. Gallai ddewis naill ai i ddefnyddio cyhoeddiad neu fideo o’n Bocs Tŵls Dysgu. Yn hytrach na dysgu cyflwyniad ar gof, dylai’r myfyriwr ymarfer sgiliau sgwrsio fel dangos diddordeb a bod yn naturiol.

   13Cyd-destun: Dylai’r myfyriwr addasu’r cyd-destun sydd wedi ei aseinio yn ôl amgylchiadau lleol. Er enghraifft:

  1.  (1) O Dŷ i Dŷ: Mae hyn yn cynnwys pregethu o dŷ i dŷ—mewn person, dros y ffôn, neu gyda llythyrau—a pharhau â sgwrs â rhywun a ddangosodd ddiddordeb ar yr alwad gyntaf.

  2.  (2) Tystiolaethu’n Anffurfiol: Mae hyn yn cynnwys manteisio ar bob cyfle i roi tystiolaeth yn ystod sgyrsiau bob dydd. Gall hyn olygu rhannu rhywbeth ysbrydol â rhywun yn y gwaith, yn yr ysgol, yn dy ardal, ar gludiant cyhoeddus, neu rywle arall cyfarwydd.

  3.  (3) Tystiolaethu’n Gyhoeddus: Gall hyn gynnwys defnyddio troli i dystiolaethu, pregethu mewn tiriogaeth fusnes, tystiolaethu ar y stryd, mewn parciau, mewn meysydd parcio, neu ble bynnag mae pobl yn casglu.

 14Sut i Ddefnyddio Fideos a Chyhoeddiadau: Yn ôl yr amgylchiadau, gallai myfyriwr gyfeirio at fideo neu gyhoeddiad. Os ydy aseiniad yn cynnwys fideo, neu os ydy’r myfyriwr yn dewis cyfeirio at un, dylai cyflwyno’r fideo ond peidio â’i chwarae.

  EIN BYWYD CRISTNOGOL

15. Ar ôl y gân, bydd 15 munud nesaf y rhan hon yn cynnwys eitem neu ddwy i helpu’r gynulleidfa i roi Gair Duw ar waith. Oni nodir yn wahanol, gall y rhannau hyn gael eu haseinio i henuriaid neu i weision y gynulleidfa cymwys, heblaw am yr eitem anghenion lleol, a fydd yn cael ei haseinio i henuriad. Pan mae’r eitem yn drafodaeth, gall y siaradwr ofyn cwestiynau sy’n ychwanegol i’r rhai yn y gweithlyfr. Dylai’r siaradwr gadw ei gyflwyniad yn fyr er mwyn gadael digon o amser ar gyfer y pwyntiau dan sylw ac ar gyfer atebion y gynulleidfa. Os oes ’na gyfweliad, byddai’n well iddo gael ei gynnal ar y llwyfan yn hytrach na chyfweld â rhywun o’i sêt yn y gynulleidfa.

  16Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa: Tri deg munud. Mae’r rhan hon yn cael ei haseinio i henuriad cymwys. (Pan nad oes digon o henuriaid, gall gweision y gynulleidfa cymwys gael eu haseinio yn ôl yr angen.) Dylai’r corff henuriaid benderfynu pwy sy’n gymwys i arwain Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa. Dylai’r brodyr sy’n cael eu cymeradwyo arwain mewn ffordd dda a chadw o fewn amser, pwysleisio’r prif ysgrythurau, a helpu pawb i ddeall gwerth ymarferol y deunydd. Byddai hefyd yn dda iddyn nhw adolygu cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i gynnal eitemau cwestiynau ac atebion. (w23.04 p. 24, blwch) Ar ôl i brif bwyntiau’r deunydd gael eu trafod, does dim angen estyn yr astudiaeth i lenwi’r amser. Pan mae’n bosib, dylai arweinwyr a darllenwyr gwahanol gael eu defnyddio bob wythnos. Os ydy cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn dweud bod rhaid cwtogi hyd yr astudiaeth, yna bydd yr arweinydd yn penderfynu sut i wneud hynny. Efallai bydd yn dewis peidio â darllen rhai o’r paragraffau.

  SYLWADAU I GLOI

17. Tri munud. Bydd cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn adolygu pwyntiau ymarferol o’r cyfarfod. Dylai hefyd roi cipolwg ar y deunydd ar gyfer yr wythnos wedyn. Os oes digon o amser, gall gyhoeddi enwau’r myfyrwyr sydd â rhannau’r wythnos wedyn. Oni nodir yn wahanol, dylai’r cadeirydd ddarllen unrhyw lythyrau a chyhoeddiadau angenrheidiol i’r gynulleidfa yn ystod ei sylwadau i gloi. Ni ddylai gwybodaeth arferol gael ei chyhoeddi o’r llwyfan, fel trefniadau arferol ar gyfer y weinidogaeth a glanhau’r neuadd; dylai’r rhain gael eu rhoi ar yr hysbysfwrdd. Os na fydd digon o amser i ddarllen y llythyrau a’r cyhoeddiadau yn ystod y sylwadau i gloi, dylai’r cadeirydd ofyn i’r brodyr sy’n cynnal yr eitemau yn Ein Bywyd Cristnogol gwtogi eu rhannau yn ôl yr angen. (Gweler  paragraffau 16 ac  19.) Bydd y cyfarfod yn gorffen gyda chân a gweddi.

  CANMOLIAETH A CHYNGOR

18. Ar ôl pob un o aseiniadau’r myfyrwyr, mae gan gadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth tua munud i ganmol y myfyriwr a rhoi cyngor iddo yn seiliedig ar y pwynt astudio aseiniedig. Pan mae’r cadeirydd yn cyhoeddi aseiniad myfyriwr, ni fydd yn dweud pa wers sydd o dan sylw. Ond, ar ôl i’r myfyriwr orffen ei aseiniad, ac ar ôl ychydig o ganmoliaeth briodol, gall y cadeirydd gyhoeddi’r wers a dweud pam gwnaeth y myfyriwr yn dda ar y wers honno, neu esbonio’n garedig pam a sut dylai’r myfyriwr roi sylw pellach i’r wers. Gall y cadeirydd hefyd dynnu sylw at rywbeth arall o’r dangosiad a fydd o les i’r myfyriwr neu i’r gynulleidfa. Gall y cadeirydd roi cyngor adeiladol preifat i’r myfyriwr ar ôl y cyfarfod, neu ar adeg arall, o’r llyfrynnau Caru Pobl a Darllen a Dysgu neu o’r llyfr Ministry School. Gall y cyngor fod yn seiliedig ar y wers aseiniedig neu ar wers arall.—Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rôl cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth a rôl y cynghorwr cynorthwyol, gweler  paragraffau 19,  24, a  25.

     AMSERU

19Ni ddylai unrhyw ran fynd dros amser, gan gynnwys sylwadau cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth. Er bod Gweithlyfr y Cyfarfodydd yn penodi amser i bob rhan, does dim angen ychwanegu gwybodaeth i lenwi’r amser os ydy’r prif bwyntiau wedi cael eu trafod. Os ydy rhannau yn mynd dros amser, dylai cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth neu’r cynghorwr cynorthwyol roi cyngor preifat. (Gweler  paragraffau 24 a  25.) Dylai’r cyfarfod cyfan, gan gynnwys y caneuon a’r gweddïau, bara am 1 awr a 45 munud.

 YMWELIAD AROLYGWR Y GYLCHDAITH

20. Pan fydd arolygwr y gylchdaith yn ymweld â’r gynulleidfa, dylai’r cyfarfod barhau i ddilyn Gweithlyfr y Cyfarfodydd heblaw am y canlynol: Yn hytrach na chynnal Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa ar ddiwedd Ein Bywyd Cristnogol, bydd arolygwr y gylchdaith yn rhoi anerchiad gwasanaeth 30 munud ar gyfer y gynulleidfa. Cyn yr anerchiad hwn, bydd cadeirydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn adolygu’r cyfarfod, yn rhoi cipolwg ar raglen yr wythnos wedyn, yn darllen unrhyw gyhoeddiadau a llythyrau angenrheidiol, ac yna’n cyflwyno arolygwr y gylchdaith. Ar ôl ei anerchiad, bydd arolygwr y gylchdaith yn cloi’r cyfarfod â chân y mae ef wedi ei dewis. Gall wahodd brawd arall i gloi gyda gweddi. Ni ddylai ail ysgol gael ei chynnal yn ystod ymweliad arolygwr y gylchdaith. Ond os oes gan y gynulleidfa grŵp iaith arall, gall y grŵp gynnal ei gyfarfod ac ailymuno â’r gynulleidfa ar gyfer anerchiad gwasanaeth arolygwr y gylchdaith.

 WYTHNOS CYNULLIAD NEU GYNHADLEDD

21. Ni fydd y gynulleidfa yn cyfarfod yn ystod wythnos y cynulliad neu’r gynhadledd. Dylai’r gynulleidfa gael ei hatgoffa i astudio, fel unigolion neu fel teuluoedd, y deunydd ar gyfer yr wythnosau hynny.

 WYTHNOS Y GOFFADWRIAETH

22. Pan fydd y Goffadwriaeth yn syrthio rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ni fydd Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn cael ei gynnal.

 AROLYGWR CYFARFOD EIN BYWYD A’N GWEINIDOGAETH

23. Bydd y corff henuriaid yn dewis un henuriad i wasanaethu fel arolygwr Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth. Mae’n gyfrifol am sicrhau bod y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal mewn ffordd drefnus sy’n dilyn y cyfarwyddiadau hyn. Dylai gyfathrebu’n dda â’r cynghorwr cynorthwyol. Cyn gynted ag y mae Gweithlyfr y Cyfarfodydd ar gael, bydd arolygwr Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn aseinio pob eitem yn y cyfarfodydd canol wythnos ar gyfer y ddau fis o dan sylw. Mae hyn yn cynnwys dewis myfyrwyr, yn ogystal â dewis brodyr y mae’r corff henuriaid wedi eu cymeradwyo i gadeirio ac i ofalu am bob aseiniad arall. (Gweler  paragraffau 3-16 a  24.) Wrth aseinio myfyrwyr, dylai ystyried eu hoed, eu profiad, a sicrhau eu bod yn gallu siarad yn agored am y pwnc. Dylai ystyried pethau tebyg wrth aseinio rhannau eraill y cyfarfod. Dylai pob un o’r aseiniadau gael eu dosbarthu o leiaf dair wythnos cyn dyddiad yr aseiniad. Yn achos aseiniadau myfyrwyr, dylid defnyddio’r ffurflen Aseiniad ar Gyfer Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth (S-89). Dylai arolygwr Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth sicrhau bod rhaglen yr aseiniadau ar gyfer y cyfarfod cyfan yn cael ei bostio ar yr hysbysfwrdd. Gall y corff henuriaid aseinio henuriad neu was i’w helpu. Dim ond henuriaid sy’n cael aseinio rhannau sydd ddim yn aseiniadau myfyrwyr.

    CADEIRYDD CYFARFOD EIN BYWYD A’N GWEINIDOGAETH

24. Bob wythnos, bydd un henuriad yn cadeirio’r Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth cyfan. (Pan nad oes digon o henuriaid, gall gweision y gynulleidfa cymwys gael eu haseinio yn ôl yr angen.) Mae ef yn gyfrifol am baratoi’r sylwadau i agor ac i gloi ac am gyflwyno pob rhan. Os nad oes ’na lawer o henuriaid, gall hefyd gymryd rhannau eraill yn y cyfarfod, yn enwedig rhannau sy’n gofyn am ddangos fideo yn unig heb unrhyw drafodaeth. Dylai sylwadau rhwng y rhannau fod yn fyr iawn. Bydd corff henuriaid y gynulleidfa yn penderfynu pa henuriaid sy’n gymwys ar gyfer y rôl hon. Bydd yr henuriaid cymwys yn cael eu haseinio fel cadeirydd bob hyn a hyn. Yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, gall arolygwr Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth gadeirio yn amlach na’r henuriaid cymwys eraill. Os ydy henuriad yn gymwys i gynnal Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa, mae’n debyg ei fod yn gymwys i gadeirio’r cyfarfod. Ond, mae’n bwysig cofio bod rhaid i’r henuriad sy’n cadeirio roi canmoliaeth a chyngor cariadus a defnyddiol yn ôl yr angen i’r rhai sydd ag aseiniadau myfyrwyr. Mae’r cadeirydd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod y cyfarfod yn gorffen ar amser. (Gweler  paragraffau 17 ac  19.) Os oes digon o le, gall y cadeirydd benderfynu cael meicroffon arall ar y llwyfan er mwyn iddo gyflwyno pob rhan tra bod y prif feicroffon yn cael ei osod ar gyfer y siaradwr. Yn yr un modd, gall y cadeirydd benderfynu eistedd wrth fwrdd ar y llwyfan yn ystod y rhannau Darlleniad o’r Beibl a Rhoi Ein Sylw i’r Weinidogaeth. Gall hyn arbed amser.

   CYNGHORWR CYNORTHWYOL

25. Os yw’n bosib, mae’n dda i ddefnyddio henuriad sy’n siaradwr profiadol ar gyfer y rôl hon. Cyfrifoldeb y cynghorwr cynorthwyol yw rhoi cyngor preifat, os oes angen, i henuriaid a gweision y gynulleidfa ynglŷn ag unrhyw aseiniad maen nhw wedi ei gyflwyno, gan gynnwys rhannau yn Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth, anerchiadau cyhoeddus, ac arwain neu ddarllen yn ystod Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio neu Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa. (Gweler  paragraff 19.) Os oes ’na nifer o henuriaid yn y gynulleidfa sy’n siarad ac yn dysgu’n dda, gall henuriad cymwys gwahanol fod yn gynghorwr cynorthwyol bob blwyddyn. Nid oes rhaid i’r cynghorwr cynorthwyol roi cyngor ar ôl pob aseiniad.

 YSGOLION YCHWANEGOL

26. Yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr, gall cynulleidfaoedd gynnal dosbarthiadau ychwanegol ar gyfer aseiniadau’r myfyrwyr. Dylai cynghorwr cymwys gael ei aseinio i bob ysgol ychwanegol. Byddai’n well petai’n henuriad, ond os oes angen gall gwas y gynulleidfa cymwys gael ei aseinio. Dylai’r corff henuriaid benderfynu pwy all gael yr aseiniad hwn, a phenderfynu i gael un brawd yn unig neu i gael mwy ar rota. Dylai’r cynghorwr ddilyn y drefn a ddisgrifiwyd ym  mharagraff 18. Dylai’r cadeirydd ofyn i’r myfyrwyr fynd i’r ail ysgol ar ôl y rhan Cloddio am Drysor Ysbrydol yn Trysorau o Air Duw. Dylen nhw ailymuno â gweddill y gynulleidfa ar ôl yr aseiniad myfyrwyr olaf.

 FIDEOS

27. Mae fideos penodol yn cael eu defnyddio ar gyfer y cyfarfodydd hyn. Bydd y fideos ar gyfer y cyfarfod canol wythnos ar gael drwy’r ap JW Library® ar nifer o ddyfeisiau gwahanol.

© 2023 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania

S-38-W 11/23