Ar y Gorwel
Lawrlwytho:
1. Clywir adar mân yn canu,
Mae hi’n fore heulog braf,
Does r’un cwmwl yn yr awyr,
Mae hi’n ddiwrnod gwych o awyr las.
Rhown groeso i’n hanwyliaid
Nôl i berffaith fywyd pur;
Hwn yw’r bywyd sydd yn wir.
Ac roedd hyn ar y gorwel.
2. Mae ’na gartre’ yn y dyffryn,
Mae ’na fwthyn ar y bryn,
Clywir canu ger yr afon
Sydd yn llifo lawr i’r llonydd lyn.
Cynhaeaf gwyn sy’n aeddfed,
Cawn ei fedi cyn bo hir.
Fydd hyn oll yn dod yn wir—
Ac mae’n glir ar y gorwel.
(PONT)
Mae’n deimlad braf cael ffrindiau da
Sy’n rhannu’r holl obeithion hyn.
Pob deigryn fydd ’di sychu’n sych,
Mewn newydd fyd cawn fyw’n gytûn.
3. Y mae’r haul yn adlewyrchu
Ac yn pefrio ar y dŵr,
Clywir lleisiau ein hanwyliaid,
Diwrnod perffaith ydyw’r diwrnod hwn!
Rhoddwn ddiolch i’n Creawdwr,
I’n haelionus Arglwydd Dduw,
Dduw Jehofa, cariad yw—
Mae ein gwobr ar y gorwel.
(PONT)
Mae’n deimlad braf, Dy weld yn iach,
Yn hapus ac yn gwenu’n llon.
Awn law yn llaw yn ddi-ben-draw . . .
Anhygoel ydyw’r freuddwyd hon!
4. Sbio ar y gorwel
Mae’n dyfodol ni yn glir,
Daw paradwys gan Jehofa,
Addewidion Duw sy’n dod yn wir.
Ac mae’n anodd digalonni
Wrth ddychmygu’r newydd fyd,
Ar baradwys rhown fy mryd,
Dacw hi ar y gorwel.