Cyd-dynnu yw Ein Grym
Lawrlwytho:
(RHAGARWEINIAD)
Clywch! Chi frodyr a chwiorydd!
Clywch y neges bwysig hon!
1. Yn unol moliannwn Dduw.
Yn unedig cyflawnwn ei waith.
Un nod, un ffydd ac un llais.
Gwahanol ieithoedd yn lleisio un iaith.
(RHAG-GYTGAN)
Beth bynnag a ddaw,
Beth bynnag yw’r prawf,
Â’n gilydd mewn undod parhawn.
(CYTGAN)
Cydlynu, cyd-dynnu, mae dau yn well nag un.
Cydgamu, cydganu, neb ar ei ben ei hun.
Cydweithio, cyd-deithio, cydleisio yn gytûn,
Law yn llaw yn ddi-ben-draw,
Cydlynu, cyd-dynnu yw ein grym!
2. Arferion gwahanol sy’n
Creu amrywiaeth i liwio ein byd.
Heddwch a chariad a ffydd
Sydd yn ein hybu i dynnu ynghyd.
(RHAG-GYTGAN)
Ble bynnag yr awn,
Gwir gariad fwynhawn
Mawr groeso ein brodyr a gawn.
(CYTGAN)
Cydlynu, cyd-dynnu, mae dau yn well nag un.
Cydgamu, cydganu, neb ar ei ben ei hun.
Cydweithio, cyd-deithio, cydleisio yn gytûn,
Law yn llaw yn ddi-ben-draw,
Cydlynu, cyd-dynnu yw ein grym!
Cydlynu, cyd-dynnu, cydlynu.
(CYTGAN)
Cydlynu, cyd-dynnu, mae dau yn well nag un.
Cydgamu, cydganu, neb ar ei ben ei hun.
Cydweithio, cyd-deithio, cydleisio yn gytûn,
Law yn llaw yn ddi-ben-draw,
Cydlynu, cyd-dynnu yw ein grym!
Cyd-dynnu yw ein grym!
Cyd-dynnu yw ein grym!