Dychmyga Dy Fywyd
Lawrlwytho:
1. Llwm a llwyd ydyw rhygnu byw,
A bod heb ddim—mor galed yw.
Ond cau fy llygaid a wnaf yn dynn,
A gwelaf fyd, a neb yn brin.
(CYTGAN)
Dychmyga dy fywyd ar ddaear lân,
A phawb yn llawen, ifanc, ac yn iach.
Dychmyga’r olygfa a thyfiant y tir.
Diolch! Diolch! Gwelaf hyn i gyd yn dod yn wir.
2. Clywaf neb yn canu—tawel yw.
Mae’r blodau wedi colli’u lliw.
Ond cyn bo hir clywaf alaw dlos,
A gwelaf eto’r ddisglair nos.
(CYTGAN)
Dychmyga dy fywyd ar ddaear lân,
A phawb yn llawen, ifanc, ac yn iach.
Dychmyga’r llawenydd a’r canu a fydd:
“Bendigedig ydyw deffro bob newydd ddydd.”
(PONT)
Dwi’n teimlo’n gaeth i’r baich o fod yn glaf,
Ond cyn bo hir, yn rhydd yr af!
(CYTGAN)
Dychmyga dy fywyd ar ddaear lân,
A phawb yn llawen, ifanc, ac yn iach.
Dychmyga’r gorfoledd, y miri ac yr hwyl.
Dymuniadau’n calon gawn, a mwy.
(CYTGAN)
Dychmyga dy fywyd ar ddaear lân,
A phawb yn llawn llawenydd, pawb yn iach.
Dychmyga bob bore’n atseinio â’r gân:
“Diolch, diolch am ein bywyd braf.”