Cân 145
Paratoi ar Gyfer Pregethu
(Jeremeia 1:17)
-
Toriad dydd;
Awn cyn bo hir
I gyhoeddi’r newydd da.
Ond mae’r gwynt yn fain;
Mwy na thebyg cawn law.
O na chawn aros am ddiwrnod braf
Yn yr haf!
(CYTGAN)
Bydd paratoi yn ennyn hyder.
Torchi ein llewys rhaid.
Gweddi all ddiffodd ofn a phryder,
A nerthu’n traed.
Cwmni’r angylion gawn i’n harwain;
Iesu sydd ar y blaen.
Cyfaill a gawn i gynnig cymorth—
Camwn ymlaen!
-
Llwyddo wnawn;
Hwyl a fwynhawn;
Bendith gan Jehofa gawn.
Bythgofiadwy yw
Ein gweithredoedd i Dduw.
Ein holl ymdrechion a’n brwd a’n sêl—
Duw a’u gwêl.
(CYTGAN)
Bydd paratoi yn ennyn hyder.
Torchi ein llewys rhaid.
Gweddi all ddiffodd ofn a phryder,
A nerthu’n traed.
Cwmni’r angylion gawn i’n harwain;
Iesu sydd ar y blaen.
Cyfaill a gawn i gynnig cymorth—
Camwn ymlaen!
(Gweler hefyd Preg. 11:4; Math. 10:5, 7; Luc 10:1; Titus 2:14.)