Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cân 146

I Mi y Gwnaethoch

I Mi y Gwnaethoch

(Mathew 25:​34-40)

  1. Gwasanaethu ym mhraidd Iesu’r bugail y mae’r

    defaid eraill ynghyd â’i frodyr di-wair.

    Cymorth rônt i’r eneiniog,

    briodferch y nef,

    cânt wobr am bopeth a wnânt er eu lles.

    (CYTGAN)

    “Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.

    Os fe roesoch i’m brawd, fe roesoch i mi.

    Eich llafur i’m brawd oedd eich llafur i mi.

    Pan roesoch i’m brawd fe roesoch i mi.

    Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.”

  2. “Bûm heb ddiod na bwyd; bûm yn noeth ac yn wael.

    Daethoch ataf a rhoi cynhaliaeth yn hael.”

    “Pryd y’th welsom mewn angen,”

    gofynnant yn syn.

    A’r brenin a fydd yn eu hateb fel hyn:

    (CYTGAN)

    “Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.

    Os fe roesoch i’m brawd, fe roesoch i mi.

    Eich llafur i’m brawd oedd eich llafur i mi.

    Pan roesoch i’m brawd fe roesoch i mi.

    Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.”

  3. Meddai’r Brenin yn awr: “Buoch ffyddlon, do wir.

    Pregethasoch ynghyd â’m brodyr trwy’r byd.

    Etifeddwch y ddaear,

    bendithion Duw gewch,

    Wrth fyw ym Mharadwys, perffeithrwydd fwynhewch!”

    (CYTGAN)

    “Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.

    Os fe roesoch i’m brawd, fe roesoch i mi.

    Eich llafur i’m brawd oedd eich llafur i mi.

    Pan roesoch i’m brawd fe roesoch i mi.

    Yr hyn wnaethoch i’m brawd, fe wnaethoch i mi.”

(Gweler hefyd Diar. 19:17; Math. 10:​40-42; 2 Tim. 1:​16, 17.)