Cân 147
Dy Eiddo Arbennig
-
Ei greadigaeth newydd
Yw meibion eneiniog Duw.
Duw a’u carodd, a’u prynodd
O blith holl ddynol ryw.
(CYTGAN)
Dy eiddo arbennig,
Perthyn maent i ti dy hun.
Fe’th garant, fe’th folant,
Clodforant dy holl rinweddau gwych.
-
Cenedl sanctaidd ydynt—
Yn hil etholedig gwiw.
I’r goleuni o’r t’wyllwch
Fe’u gwaredwyd gan Dduw.
(CYTGAN)
Dy eiddo arbennig,
Perthyn maent i ti dy hun.
Fe’th garant, fe’th folant,
Clodforant dy holl rinweddau gwych.
-
Casglant y defaid eraill,
Heb wyro o’r dwyfol Air.
I Oen Duw maent yn ffyddlon
Wrth gyflawni eu gwaith.
(CYTGAN)
Dy eiddo arbennig,
Perthyn maent i ti dy hun.
Fe’th garant, fe’th folant,
Clodforant dy holl rinweddau gwych.
(Gweler hefyd Esei. 43:20b, 21; Mal. 3:17; Col. 1:13.)