Cân 139
Dysgu Eraill i Sefyll yn Gadarn
-
Pleser pur yw dysgu’r defaid mwyn—
Gweld eu tyfiant, hyfryd yw.
Mae Jehofa wedi’u harwain hwy,
Iddynt oll mae’r gwir yn fyw.
(CYTGAN)
Jehofa, Gofyn rydym ni,
Yn daer, yn enw Iesu Grist,
I ti eu cadw’n d’ofal clyd—Gwir lwyddiant gânt.
Ar graig yn gadarn sefyll wnânt.
-
Aml weddi gofynasom ni
Pan oedd prawf mawr ar eu ffydd.
Lawer awr o ofal rhoesom ni.
Safant nawr ar sail sy’n gryf.
(CYTGAN)
Jehofa, Gofyn rydym ni,
Yn daer, yn enw Iesu Grist,
I ti eu cadw’n d’ofal clyd—Gwir lwyddiant gânt.
Ar graig yn gadarn sefyll wnânt.
-
Wrth gryfhau eu ffydd yn Nuw a’i Fab
Ceisiant wneud eu gorau glas.
Wrth ddal ati, gwerthfawr fendith gânt,
Ennill byddant yn y ras.
(CYTGAN)
Jehofa, Gofyn rydym ni,
Yn daer, yn enw Iesu Grist,
I ti eu cadw’n d’ofal clyd—Gwir lwyddiant gânt.
Ar graig yn gadarn sefyll wnânt.
(Gweler hefyd Luc 6:48; Act. 5:42; Phil. 4:1.)