Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 116

Grym Caredigrwydd

Grym Caredigrwydd

(Effesiaid 4:32)

  1. 1. Jehofa, tydi sy’n nerthol a chryf,

    Di-drai yw d’egni di.

    Ond er dy arswydus allu a’th rym,

    Duw llawn caredigrwydd wyt ti.

  2. 2. Mor fwyn yw dy Fab mewn gweithred a gair,

    Mor dyner ac mor deg.

    Ysgafnu ein beichiau trymion y mae,

    Ffrind hynod garedig yw ef.

  3. 3. Mae cariad caredig Iesu a Duw,

    At bawb, drwy’r oesoedd maith,

    Yn dangos i ni sut dylem ni fyw

    Wrth roi caredigrwydd ar waith!

(Gweler hefyd Mich. 6:8; Math. 11:28-30; Col. 3:12; 1 Pedr 2:3.)