Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 118

Rho Inni Fwy o Ffydd

Rho Inni Fwy o Ffydd

(Luc 17:5)

  1. 1. Tueddiad calon dyn ers ei blentyndod,

    Drygionus yw; a phechu wnawn bob dydd.

    Mae magl arall sydd yn medru’n rhwydo,

    Oherwydd amherffeithrwydd—diffyg ffydd.

    (CYTGAN)

    Rho inni fwy o ffydd, Jehofa annwyl,

    Rho inni fwy o ffydd, drugarog Dduw,

    Rho inni fwy o ffydd, a chyda’n gweithred

    A’n gair, dangoswn fod ein ffydd yn fyw.

  2. 2. Heb ffydd, does neb yn medru’n llawn dy blesio,

    Â’n calon credwn y’n gwobrwyo gawn,

    A bydd ein ffydd, fel tarian, yn rhoi noddfa—

    Yn hy, heb ofni, i’r dyfodol awn.

    (CYTGAN)

    Rho inni fwy o ffydd, Jehofa annwyl,

    Rho inni fwy o ffydd, drugarog Dduw,

    Rho inni fwy o ffydd, a chyda’n gweithred

    A’n gair, dangoswn fod ein ffydd yn fyw.

(Gweler hefyd Gen. 8:21; Heb. 11:6; 12:1.)