CÂN 122
Safwch yn Gadarn!
-
1. Byd y cenhedloedd, cynhyrfu a wnânt,
Ofn sydd ar wyneb oedolion a phlant.
Peidiwn â dychryn, cydsefyll a wnawn.
Ffyddlon i Dduw fe barhawn.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn sydd rhaid,
A bwrw ’mlaen yn ddi-baid,
Rhag y byd cadwn draw—
Bywyd heb ddiwedd ddaw.
-
2. Pleser y byd, denu llawer y mae,
Peidiwn â syrthio ond dyfalbarhau.
Gwrthod drygioni a charu y gwir,
Cadwn ein meddwl yn glir.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn sydd rhaid,
A bwrw ’mlaen yn ddi-baid,
Rhag y byd cadwn draw—
Bywyd heb ddiwedd ddaw.
-
3. Â chalon uniawn addolwn ein Duw,
Cadwn yn brysur, yn ffyddlon, yn driw.
Yna, ein gobaith a fydd yn cryfhau,
Buan daw daear heb wae.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn sydd rhaid,
A bwrw ’mlaen yn ddi-baid,
Rhag y byd cadwn draw—
Bywyd heb ddiwedd ddaw.
(Gweler hefyd Luc 21:9; 1 Pedr 4:7.)