Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 129

Dyfalbarhawn

Dyfalbarhawn

(Mathew 24:13)

  1. 1. Rhaid dyfalbarhau;

    Ond sut parhawn fel Iesu Grist?

    Hoelio’i sylw wnaeth

    Ar obaith gogoneddus ddydd.

    Ystyriodd, myfyriodd,

    A chadarn oedd ei ffydd.

    (CYTGAN)

    Â’n gilydd daliwn ati.

    Yn gadarn awn ymlaen.

    Jehofa sy’n ein caru;

    Yn ffyddlon, cerdded wnawn hyd ben y daith.

  2. 2. Gofid ddaw i’n rhan,

    Ac yn ein trallod, wylo wnawn.

    Â phob cam ymlaen,

    At y baradwys agosawn.

    Hyfrydwch gwir heddwch

    Yw’n gwobr, os parhawn.

    (CYTGAN)

    Â’n gilydd daliwn ati.

    Yn gadarn awn ymlaen.

    Jehofa sy’n ein caru;

    Yn ffyddlon, cerdded wnawn hyd ben y daith.

  3. 3. Cadarn yn ein ffydd,

    Parhawn yn ddewr i ddal ein tir.

    Agos y mae’r dydd

    Pan ddaw addewid Duw yn wir;

    Llawenydd byd newydd

    Gawn weled cyn bo hir.

    (CYTGAN)

    Â’n gilydd daliwn ati.

    Yn gadarn awn ymlaen.

    Jehofa sy’n ein caru;

    Yn ffyddlon, cerdded wnawn hyd ben y daith.