Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 130

Byddwch Faddeugar

Byddwch Faddeugar

(Salm 86:5)

  1. 1. Duw, o’i gariad, drefnodd,

    Drwy farwolaeth Iesu Grist,

    Inni dderbyn nawr faddeuant,

    A chael byw hyd byth ryw ddydd.

    Gyda chalon edifeiriol,

    Ar sail pridwerth Crist ei Fab,

    Erfyn rhaid am Ei faddeuant—

    Ac o’n dyled cawn ryddhad.

  2. 2. Derbyn wnawn faddeuant

    Pan faddeuwn ninnau’n hael.

    Efelychu wnawn Jehofa

    Wrth roi cariad ar y blaen.

    Yn oddefgar a thrugarog

    Rhown deimladau cas ymaith,

    Cydymdeimlo wnawn â’n brodyr—

    Hwn yw cariad pur ar waith.

  3. 3. Meithrin rhaid dosturi,

    Mae’n ein cadw rhag dal dig,

    Mae’n lleihau teimladau chwerwon,

    Mae’n dwysáu tiriondeb pur.

    Rhown ein bryd ar efelychu

    Cariad tra rhagorol Duw,

    A bydd bod yn wir faddeugar

    Yn dod inni’n rhan o’n byw.