Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 146

“Gwneud Pob Peth yn Newydd”

“Gwneud Pob Peth yn Newydd”

(Datguddiad 21:​1-5)

  1. 1. Dangosa’r arwyddion fod Crist yn y nef,

    Yn eistedd yn awr ar ei orsedd ef.

    Glanhawyd y nen. Felly, llawenhewch!

    Ymhen fawr o dro, daear newydd gewch.

    (CYTGAN)

    Preswylio gyda dyn mae Duw,

    Yn bobl iddo fyddan nhw.

    Ni bydd marwolaeth, poen, na galar chwaith,

    Fe sycha Duw bob deigryn hallt ymaith.

    ‘Dwi’n gwneud pob peth yn newydd,’ meddai Duw,

    ‘A’m gair, dibynadwy yw.’

  2. 2. Llewyrcha Jerwsalem Newydd fel aur,

    Ei phurdeb yn befriog, a’i gemau’n glaer.

    Priodferch yr Oen, dinas sanctaidd yw.

    Goleuwyd hi gan lân ysblander Duw.

    (CYTGAN)

    Preswylio gyda dyn mae Duw,

    Yn bobl iddo fyddan nhw.

    Ni bydd marwolaeth, poen, na galar chwaith,

    Fe sycha Duw bob deigryn hallt ymaith.

    ‘Dwi’n gwneud pob peth yn newydd,’ meddai Duw,

    ‘A’m gair, dibynadwy yw.’

  3. 3. Disgleirdeb didoriad sydd i’r ddinas dlos,

    A’i giatiau’n agored bob dydd a nos.

    Goleuni ysbrydol yn gyson gawn.

    Fel drych, adlewyrchu’r gwych lewyrch wnawn.

    (CYTGAN)

    Preswylio gyda dyn mae Duw,

    Yn bobl iddo fyddan nhw.

    Ni bydd marwolaeth, poen, na galar chwaith,

    Fe sycha Duw bob deigryn hallt ymaith.

    ‘Dwi’n gwneud pob peth yn newydd,’ meddai Duw,

    ‘A’m gair, dibynadwy yw.’