Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 3

Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

Ein Nerth, Ein Gobaith, Ein Hyder

(Diarhebion 14:26)

  1. 1. Dduw Jehofa, rwyt ti wedi rhoi

    o’n blaenau obaith gwych.

    Rydym am i bawb gael cyfle

    i weld dy newydd fyd.

    Ond amharu ar y gobaith hwn

    mae pryderon trwm y dydd;

    Yn mudlosgi yn ein calon

    mae marwor tân ein ffydd.

    (CYTGAN)

    Ti yw’n nerth, ti yw’n gobaith,

    ein hyder wyt.

    Dy gysgod sy’n guddfan i ni.

    Wrth bregethu’n hyderus,

    ein cryfder wyt.

    Dibynnwn yn llwyr arnat ti.

  2. 2. Dduw Jehofa, gwna i’n llygaid weld

    ein gobaith eto’n glir.

    Gwna’n calonnau’n fwy hyderus

    i hysbysebu’r gwir.

    Dduw Jehofa, gobaith cadarn wyt;

    wrth ein hochr rwyt bob cam.

    Ti yw’n hyder yn ein hadfyd;

    adfywio rwyt ein fflam.

    (CYTGAN)

    Ti yw’n nerth, ti yw’n gobaith,

    ein hyder wyt.

    Dy gysgod sy’n guddfan i ni.

    Wrth bregethu’n hyderus,

    ein cryfder wyt.

    Dibynnwn yn llwyr arnat ti.

(Gweler hefyd Salm 72:13, 14; Diar. 3:5, 6, 26; Jer. 17:7.)