Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 31

Cerdda Gyda Duw!

Cerdda Gyda Duw!

(Micha 6:8)

  1. 1. Yn wylaidd, cerdda gyda Duw,

    Cyfiawnder ceisia bob dydd.

    Wrth bwyso ar Dduw ym mhob rhan o’th fyw,

    Ei nerth gei yn feunyddiol.

    Dal di yn dynn ar ei ffyddlon Air,

    Parha, beth bynnag ddaw.

    Os gwrando wnei ac ufuddhau,

    Bydd Jehofa’n dal dy law.

  2. 2. Mewn glendid, cerdda gyda Duw,

    Gan gofio’r pethau sy’n bur.

    Jehofa a fydd yn graig i dy ffydd

    I’th adfer a’th gysuro.

    Pan ddaw temtasiwn, am bethau glân

    A gwir meddylia di.

    Myfyria ar rinweddau da,

    A dy Dduw fydd gyda thi.

  3. 3. Yn llawen, cerdda gyda Duw,

    Bydd hapus—ef yw dy Ffrind.

    Jehofa a rydd fendithion di-rif,

    Pob anrheg, a phob rhinwedd.

    Dy ddiolch, cana â chalon lân,

    Dy lawen lais a glywn.

    Bydd pawb yn gweld mai cerdded rwyt

    Yn barhaol gyda Duw.