Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 41

Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

Plîs Gwrando ar Fy Ngweddi

(Salm 54)

  1. 1. O Dduw, fy Nhad, plîs clyw ’ngeiriau i.

    F’annwyl Jehofa, rho glust i’m cri.

    Ti sydd Oruchaf. D’enw, da yw.

    (CYTGAN)

    Plîs clyw fy ngweddi. Plîs gwrando Dduw.

  2. 2. Diolch am gynnal f’enaid a’m ffydd.

    Diolch am d’ofal tyner bob dydd.

    Diolch am ddangos sut dylwn fyw.

    (CYTGAN)

    Diolch am wrando arnaf i Dduw.

  3. 3. Dduw, yn dy nerth, d’ewyllys a wnaf.

    Rho help i mi os gweli di’n dda.

    Pan alwaf arnat, Arglwydd, plîs clyw.

    (CYTGAN)

    Yn dy drugaredd, plîs gwrando Dduw.

(Gweler hefyd Ex. 22:27; Salm 106:4; Iago 5:11.)