CÂN 42
Gweddi Gwas Jehofa
-
1. Ein nefol Dad, ein Harglwydd Jehofa,
Drwy’r byd i gyd, dy enw di, sancteiddia.
Dy deyrnas di, fe ddaw yn ddi-ffael,
Ti sydd yn peri, ti sy’n amseru.
Dduw, plîs clyw ein gweddi daer,
Ffyddlon ydwyt ti i’th Air.
-
2. Annwyl Jehofa, diolch o galon
Am roi i ni fendithion ar fendithion.
Popeth sydd gennym, daw o dy law,
Ti rydd wybodaeth, ti rydd ddirnadaeth.
Yn d’oleuni llawenhawn,
A phob dydd, dy ddiolch wnawn.
-
3. Yn y byd hwn, cawn lu o drafferthion.
Dduw, arnat ti y bwriwn ein pryderon.
Dro ar ôl tro fe drown atat ti.
Ti sy’n cysuro, ti sy’n esmwytho.
Plîs rho glust i’n gweddi ni.
Gwnawn ein gorau glas i ti.
(Gweler hefyd Salm 36:9; 50:14; Ioan 16:33; Iago 1:5.)