Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 44

Gweddi’r Un Mewn Angen

Gweddi’r Un Mewn Angen

(Salm 4:1)

  1. 1. O ateb fi Jehofa annwyl,

    gwranda plîs fy Nuw—

    Ti’n gwybod sut dwi’n teimlo—

    mor ddigalon wedi’r briw!

    Dwi’n isel, mewn gwir angen,

    pwysau mawr a ddaeth i’m rhan;

    Mae hyn yn ormod imi.

    O rho ateb i un gwan.

    (CYTGAN)

    Jehofa, cod fi ar fy nhraed,

    Yn d’ofal clyd caf ymgryfhau,

    Trof yn fy nagrau atat ti,

    Jehofa, plîs rho’r nerth i mi.

  2. 2. Daw nerth i mi o’th eiriau,

    teimlad diogelwch gaf;

    Cans erfyn ar fy rhan y maent

    os diymadferth af.

    Rho imi galon ffyddlon,

    rwyf yn llwyr dy drystio di.

    Dwi’n gwybod bod dy gariad di

    yn fwy na’m calon i.

    (CYTGAN)

    Jehofa, cod fi ar fy nhraed,

    Yn d’ofal clyd caf ymgryfhau,

    Trof yn fy nagrau atat ti,

    Jehofa, plîs rho’r nerth i mi.

(Gweler hefyd Salm 42:6; 119:28; Rhuf. 8:26; 2 Cor. 4:16; 1 Ioan 3:20.)