Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 54

“Dyma’r Ffordd”

“Dyma’r Ffordd”

(Eseia 30:20, 21)

  1. 1. Mae Duw yn dangos

    i ni ffordd o heddwch braf,

    Mae wedi rhoi i ni

    gyfarwyddiadau da.

    Dangosodd Iesu i ni’r

    ffordd y dylem fyw,

    A dilyn wnawn y llwybr

    hedd sydd yng Ngair Duw.

    (CYTGAN)

    ‘O, Dyma’r ffordd,’ medd llais cysurus Duw,

    Paid crwydro oddi arni. Cerdda’n driw.

    Ffordd yw o gariad, o hedd, o fyw!

    ‘Hon ydyw’r ffordd.’ Ffordd dragwyddoldeb yw.

  2. 2. Mae Duw yn dangos

    i ni ffordd o gariad pur.

    Nid yw’n guddiedig.

    Gwelwn ni y ffordd yn glir.

    Mae Duw’n ein tywys ni

    mewn ffordd gariadus glyd,

    Ac ar y ffordd o gariad

    cerddwn ni o hyd.

    (CYTGAN)

    ‘O, Dyma’r ffordd,’ medd llais cysurus Duw,

    Paid crwydro oddi arni. Cerdda’n driw.

    Ffordd yw o gariad, o hedd, o fyw!

    ‘Hon ydyw’r ffordd.’ Ffordd dragwyddoldeb yw.

  3. 3. Mae Duw yn dangos

    i ni ffordd o fywyd glân.

    Nid oes ffordd well, i’r dde,

    i’r chwith, nac unrhyw fan.

    Mae’n ffordd dragwyddol.

    Diolch i Jehofa Dduw!

    Ffordd heddwch, cariad,

    ac o fywyd bythol yw.

    (CYTGAN)

    ‘O, Dyma’r ffordd,’ medd llais cysurus Duw,

    Paid crwydro oddi arni. Cerdda’n driw.

    Ffordd yw o gariad, o hedd, o fyw!

    ‘Hon ydyw’r ffordd.’ Ffordd dragwyddoldeb yw.

(Gweler hefyd Salm 32:8; 139:24; Diar. 6:23.)