Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 61

Ymlaen â Chi, Dystion!

Ymlaen â Chi, Dystion!

(Luc 16:16)

  1. 1. Llwyr benderfynol yw gweision Duw drwy’r byd

    O draethu y Deyrnas er gwaethaf oes ddi-hid.

    Cefnogaeth Jehofa sy’n rheidiol

    I sefydlu’r efengyl yn gyfreithiol.

    (CYTGAN)

    Ymlaen â chi Dystion dewr, yng ngwaith Duw parhewch!

    Wrth fwrw ymlaen yn hyderus, llawenhewch!

    Cyhoeddwch ddyfodiad Paradwys newydd sbon,

    Daear gron a fwynha fawr fendithion.

  2. 2. Ni cheisia gweision i Dduw ei chael hi’n hawdd,

    Ac ni wnawn ni ildio pan ddeuwn o dan brawf.

    Rhaid cerdded ar lwybr uniondeb,

    Camu ’mlaen wnawn gan gynnal ein ffyddlondeb.

    (CYTGAN)

    Ymlaen â chi Dystion dewr, yng ngwaith Duw parhewch!

    Wrth fwrw ymlaen yn hyderus, llawenhewch!

    Cyhoeddwch ddyfodiad Paradwys newydd sbon,

    Daear gron a fwynha fawr fendithion.

  3. 3. Nid oes dim parch at sancteiddrwydd enw Duw,

    Gwrthodant ei Deyrnas er ei hawdurdod uwch.

    Â’n brodyr, parhawn i gydweithio

    I gyhoeddi ei enw a’i sancteiddio.

    (CYTGAN)

    Ymlaen â chi Dystion dewr, yng ngwaith Duw parhewch!

    Wrth fwrw ymlaen yn hyderus, llawenhewch!

    Cyhoeddwch ddyfodiad Paradwys newydd sbon,

    Daear gron a fwynha fawr fendithion.

(Gweler hefyd Ex. 9:16; Phil. 1:7; 2 Tim. 2:3, 4; Iago 1:27.)