CÂN 67
“Pregetha’r Gair”
-
1. Duw a orchmynnodd, gwrando rhaid:
‘Y newyddion da, i’r holl fyd, O aed!’
Yn barod bob amser byddwn ni
I adrodd am y gobaith ynom sy’.
(CYTGAN)
Pregetha’r gair!
Tystio wnawn i bawb a glyw.
Traetha’r gair!
Diwedd trefn, nawr agos yw.
Traetha’r gair!
Dysgwn eraill am y gwir.
Traetha’r gair
Drwy’r byd i gyd!
-
2. Weithiau, cyfnodau anodd ddaw,
Gwrthwynebiad llym i’n gwaith all roi braw.
Cyfleus boed, neu weithiau’n anghyfleus,
Pregethu wnawn y Gair yn ddiamheus.
(CYTGAN)
Pregetha’r gair!
Tystio wnawn i bawb a glyw.
Traetha’r gair!
Diwedd trefn, nawr agos yw.
Traetha’r gair!
Dysgwn eraill am y gwir.
Traetha’r gair
Drwy’r byd i gyd!
-
3. Weithiau, adegau teg a gawn,
Dysgu eraill yn alluog a wnawn.
Cânt wybod mai sanct Waredydd yw
Yr Hollalluog Un, Jehofa Dduw.
(CYTGAN)
Pregetha’r gair!
Tystio wnawn i bawb a glyw.
Traetha’r gair!
Diwedd trefn, nawr agos yw.
Traetha’r gair!
Dysgwn eraill am y gwir.
Traetha’r gair
Drwy’r byd i gyd!
(Gweler hefyd Math. 10:7; 24:14; Act. 10:42; 1 Pedr 3:15.)