Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 76

Pa Fath o Deimlad Yw?

Pa Fath o Deimlad Yw?

(Hebreaid 13:15)

  1. 1. Pa fath o deimlad yw

    bod yn Dyst Jehofa Dduw,

    A chael gwneud ein gorau glas

    i rannu geiriau’r gwir?

    Pa fath o deimlad gawn

    wrth ddefnyddio’n llais a’n dawn,

    Er mwyn ceisio cyrraedd calon

    sydd yn fwyn a phur?

    (CYTGAN)

    Mae’n deimlad grêt. Mae’n deimlad braf.

    Mae’n fraint pregethu’r newydd da.

    Rhown aberth moliant, a’n calonnau’n

    llawn, a’n lleisiau’n llon.

  2. 2. Pa fath o deimlad gei,

    pa lawenydd a fwynhei,

    Wrth offrymu aberth moliant

    â’th wefusau di?

    “Diolch, ond na,” medd rhai,

    a chlywn glec y drws yn cau.

    Ond yn llon ein calon,

    llawen yw ein hagwedd ni.

    (CYTGAN)

    Mae’n deimlad grêt. Mae’n deimlad braf.

    Mae’n fraint pregethu’r newydd da.

    Rhown aberth moliant, a’n calonnau’n

    llawn, a’n lleisiau’n llon.

  3. 3. Pa fath o deimlad yw

    cael cyhoeddi neges Duw,

    A chael gwybod bod Jehofa

    yn ein trystio ni?

    Braint ac anrhydedd yw

    dysgu’r gwir i ddynol-ryw.

    Geiriau iach a geiriau

    graslon a ddefnyddiwn ni.

    (CYTGAN)

    Mae’n deimlad grêt. Mae’n deimlad braf.

    Mae’n fraint pregethu’r newydd da.

    Rhown aberth moliant, a’n calonnau’n

    llawn, a’n lleisiau’n llon.