Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 82

‘Disgleiriwch Eich Golau’

‘Disgleiriwch Eich Golau’

(Mathew 5:16)

  1. 1. Cofiwn eiriau Iesu,

    “Chi yw golau’r byd.”

    Chuddiwn ni mo’n golau,

    Amlwg yw o hyd.

    O’r Ysgrifau Sanctaidd,

    Claer oleuni gawn.

    Adlewyrchu’r llewyrch hwn

    Yn ein bywyd wnawn.

  2. 2. Er mwyn bod yn ddisglair,

    Sgleinio’n sgiliau wnawn.

    Gall pelydrau’r gwir

    Gaboli’n dysg a’n dawn.

    Lledwn ein goleuni

    Â’r gwahoddiad clir:

    Dewch, mwynhewch y llewyrch sy’n

    Gloywi rhodfa’r gwir.

  3. 3. Gall un gair caredig,

    Fel un seren dlos,

    Befrio yn y t’wyllwch

    A goleuo’r nos.

    Wrth belydru cariad,

    Denu eraill wnawn.

    Wrth ddisgleirio’n golau ni,

    Golau’r Tad fawrhawn.

(Gweler hefyd Salm 119:130; Math. 5:14, 15, 45; Col. 4:6.)