CÂN 86
Rhaid Inni Gael Ein Dysgu
(Eseia 50:4; 54:13)
-
1. Deuwch yn llawen, a dysgwch am Jehofa.
Ef sy’n ein dysgu yn rhad ac am ddim.
‘Tyrd,’ meddai’r ysbryd, ‘at ddŵr y bywyd.
Yfa o ddyfroedd ysbrydol fan hyn.’
-
2. Down i ymgynnull a dysgu y gwirionedd.
I’r Ysgrythurau, ein sylw y rhown.
Cawn ein haddysgu, yma, â’n brodyr.
I bob cyfarfod, bob wythnos, y down.
-
3. Carwn gydganu—Mae’n codi ein calonnau.
Ar dafod brodyr clywn pêr eiriau Duw.
Rydym yn caru bod gyda’n gilydd.
Yma cawn ddysgu’r ffordd orau o fyw.
(Gweler hefyd Heb. 10:24, 25; Dat. 22:17.)