CÂN 89
Gwrandewch, Ufuddhewch, a Chewch Fendithion
-
1. Mae’n ddigon hawdd inni wrando ar Iesu,
Mae’r Beibl Sanctaidd ar gael yn ein hiaith.
Rydym yn hapus i ddarllen a dysgu,
Ond daw’r bendithion wrth roi hyn ar waith.
(CYTGAN)
Ar lais Jehofa gwrandewch.
I Iesu Grist ufuddhewch.
Dwyfol fendithion diddiwedd a gewch,
A gwir hapusrwydd fwynhewch.
-
2. Os adeiladwn ein tŷ ar graig solet,
Gwrthsefyll wna stormydd gwyllt, gwynt a glaw.
Os, ar ôl gwrando, fe wnawn ni ein gore’,
Yn gadarn, safwn beth bynnag a ddaw.
(CYTGAN)
Ar lais Jehofa gwrandewch.
I Iesu Grist ufuddhewch.
Dwyfol fendithion diddiwedd a gewch,
A gwir hapusrwydd fwynhewch.
-
3. Y pren a blannwyd ar lannau y dyfroedd,
Nid ydyw’n gwywo, ond dwyn ffrwyth a wna.
Os ufuddhawn, byw a gawn hyd byth bythoedd,
A’n gwreiddiau’n treiddio yn ddwfn i’r pridd da.
(CYTGAN)
Ar lais Jehofa gwrandewch.
I Iesu Grist ufuddhewch.
Dwyfol fendithion diddiwedd a gewch,
A gwir hapusrwydd fwynhewch.
(Gweler hefyd Deut. 28:2; Salm 1:3; Diar. 10:22; Math. 7:24-27; Luc 6:47-49.)