Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llinell Amser Bywyd Iesu

Llinell Amser Bywyd Iesu

Lawrlwytho:

  1. 1. Amser maith, maith, maith yn ôl,

    Cyn creu y sêr a’r lleuad, creodd Duw

    Ei Anwylyd, Ei Fab.

    Iesu ddaeth i lawr i’r byd,

    A rhoi blas o’r newydd fyd; iachaodd y sâl

    Ac fe garodd y tlawd.

    Ei berffaith gorff aberthodd ef dros bawb.

    (CYTGAN)

    “Ffyddlon a Gwir”—bythol ffyddlon, bythol wir,

    Calon sy’n fythol driw.

    Ac yn y nen, bydd Iesu’n Frenin am oesoedd hir.

    Mewn heddwch pur byddwn ninnau’n byw.

  2. 2. Coron aur a wisga nawr.

    Drwy ei law y daw paradwys. Cartre’ clyd

    Fydd y byd cyn bo hir.

    Bydd pob addewid Duw yn dod yn wir.

    (CYTGAN)

    “Ffyddlon a Gwir”—bythol ffydlon, bythol wir,

    Calon sy’n fythol driw.

    Os ufuddhawn, ein harwain gawn, ac am oesoedd hir,

    Ffyddlon a gwir byddwn ninnau’n byw.