Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Teithio Gyda Ffrindiau Jehofa

Teithio Gyda Ffrindiau Jehofa

Lawrlwytho:

  1. 1. Wrth ddarllen, rwyf yn mynd ar daith.

    Dwi’n mynd ar daith i’r oes a fu,

    A dwi’n ymweld â ffrindiau a oedd o’r blaen

    Yn ddieithr i mi.

    Yn fy nychymyg maent yn fyw,

    Dwi’n clywed sain eu lleisiau’n glir,

    Dwi’n medru gweld sut roeddent mewn llawer ffordd

    Yn debyg iawn i mi.

    (CYTGAN)

    Dwi’n teithio gyda ffrindiau Duw

    Ar daith i wledydd pell.

    Wrth ddarllen am eu bywyd nhw

    Dwi’n ’nabod nhw yn well.

    Fy ffrindiau, dôn nhw’n ôl yn fyw

    I’r ddaear cyn bo hir.

    A rhedaf i’w croesawu nhw

    A dweud, “Fi yw dy ffrind!”

  2. 2. I fod yn ffrind Jehofa Dduw

    Roedd rhaid i’m ffrindiau ddangos ffydd.

    Roedd rhaid gweddïo’n daer a gwneud ymdrech lew,

    Fel dwi yn gwneud bob dydd.

    (CYTGAN)

    Dwi’n teithio gyda ffrindiau Duw

    Ar daith i wledydd pell.

    Wrth ddarllen am eu bywyd nhw

    Dwi’n ’nabod nhw yn well.

    Fy ffrindiau, dôn nhw’n ôl yn fyw

    I’r ddaear cyn bo hir.

    A rhedaf i’w croesawu nhw

    A dweud, “Fi yw dy ffrind!”