Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

O’R ARCHIF

Gwella Sgiliau Llythrennedd o Gwmpas y Byd

Gwella Sgiliau Llythrennedd o Gwmpas y Byd

 “Tyfais i fyny ar fferm yng nghefn gwlad,” meddai Agostinho, sy’n byw ym Mrasil. “Oedden ni’n dlawd iawn. Oedd rhaid imi adael yr ysgol er mwyn gweithio a helpu i ofalu am y teulu.” Roedd Agostinho yn 33 cyn iddo ddysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu. “Wnaeth dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu roi mwy o hunan-barch imi,” meddai.

 Mae Agostinho yn un o dros chwarter miliwn o bobl mae Tystion Jehofa wedi eu dysgu i ddarllen ac ysgrifennu dros y 70 mlynedd diwethaf. Pam mae Tystion Jehofa yn cynnal y fath wersi? Sut mae pobl wedi elwa o’r fath addysg?

Mae Diffyg Llythrennedd yn Rhwystr i Ddysgu

 Erbyn canol y 1930au, roedd Tystion Jehofa yn pregethu mewn 115 o wledydd. Er mwyn cyrraedd pobl oedd yn siarad ieithoedd gwahanol, roedd cenhadon yn chwarae recordiadau o anerchiadau Beiblaidd oedd wedi cael eu cyfieithu, ac mewn rhai achosion, roedden nhw’n gallu cynnig llenyddiaeth yn yr iaith leol. Er bod llawer o bobl wedi dangos diddordeb mawr yn y Beibl, roedd diffyg llythrennedd yn amharu ar allu llawer ohonyn nhw i ddysgu.

 Heb allu darllen y Beibl drostyn nhw eu hunain, roedd pobl yn cael trafferth dysgu sut i roi egwyddorion y Beibl ar waith yn eu bywydau. (Josua 1:8; Salm 1:2, 3) Gwnaethon nhw hefyd wynebu heriau wrth gyflawni eu cyfrifoldebau Cristnogol. Er enghraifft, os nad oedd rhieni yn gallu darllen, byddai’n gofyn am fwy o ymdrech iddyn nhw ddysgu eu plant beth mae’r Beibl yn ei ddweud. (Deuteronomium 6:6, 7) A byddai Tystion nad oedd yn gallu darllen ddim yn gallu defnyddio’r Beibl gymaint wrth geisio dysgu eraill.

Cychwyn Ymgyrch Lythrennedd

 Yn ystod y 1940au a’r 1950au, gwnaeth Nathan H. Knorr a Milton G. Henschel, sef dau o’r rhai oedd yn cymryd y blaen ymysg Tystion Jehofa, deithio i wahanol wledydd i helpu i drefnu’r gwaith pregethu. Mewn gwledydd lle nad oedd llythrennedd yn gyffredin, gwnaethon nhw annog y swyddfeydd cangen lleol i gychwyn gwersi llythrennedd yn y cynulleidfaoedd.

Adnodd darllen yn Cinianjeg yn cael ei ryddhau mewn cynulliad yn Chingola, Sambia, 1954

 Anfonodd y swyddfeydd cangen gyfarwyddiadau i’r cynulleidfaoedd ar sut i gynnal y gwersi. Mewn rhai gwledydd, roedd gan y llywodraeth leol raglenni oedd yn bodoli’n barod, ac roedd modd defnyddio’r rheini. Er enghraifft, ym Mrasil, cafodd y swyddfa gangen adnoddau a gwerslyfrau gan y llywodraeth, a chafodd y rheini eu hanfon at y cynulleidfaoedd. Mewn gwledydd eraill, roedd rhaid i’r Tystion ddatblygu eu rhaglen lythrennedd eu hunain.

 Roedd gwersi llythrennedd ar gael i ddynion a merched, hen ac ifanc. Y nod oedd eu dysgu i ddarllen yn eu mamiaith—hyd yn oed os oedd hyn yn golygu dysgu sawl iaith yn yr un gynulleidfa.

Rhaglen Sy’n Helpu Pobl

 Sut mae pobl wedi elwa o’r rhaglen lythrennedd hon? Mae Tyst o Fecsico yn dweud: “Nawr, dw i’n gallu deall ystyr y Beibl, ac mae hyn yn caniatáu iddo gyffwrdd â nghalon. Mae gwybod sut i ddarllen wedi fy helpu i siarad yn rhydd â fy nghymdogion, a dw i wedi gallu cyrraedd mwy o bobl â neges y Beibl.”

 Mae buddion y rhaglen lythrennedd wedi mynd y tu hwnt i helpu pobl i ddeall y Beibl. Mae Isaac o Bwrwndi yn dweud: “Mae dysgu sut i ddarllen ac ysgrifennu wedi fy helpu i ddysgu sgiliau adeiladu. Dw i wedi gallu gwneud gyrfa allan o hynny, a bellach dw i’n arolygu prosiectau adeiladu mawr.”

Tsitseweg yn cael ei dysgu mewn Neuadd y Deyrnas yn Lilongwe, Malawi, 2014

 Roedd Jesusa o Beriw yn 49 oed pan ddechreuodd hi fynd i wersi llythrennedd. “Fel gwraig tŷ,” meddai, “dw i angen gweld prisiau ac enwau pethau yn y farchnad. Yn y gorffennol, roedd hynny’n her imi. Ond diolch i’r gwersi llythrennedd, dw i’n fwy hyderus pan dw i’n siopa ar gyfer y teulu.”

 Dros y blynyddoedd, mae swyddogion mewn amryw wledydd wedi canmol Tystion Jehofa am y gwaith maen nhw wedi ei wneud i wella sgiliau llythrennedd. Heddiw, mae Tystion Jehofa yn dal i gynnal gwersi llythrennedd gan ddefnyddio rhaglenni ac adnoddau sydd wedi cael eu coethi dros y blynyddoedd. Maen nhw hefyd wedi dylunio ac argraffu bron i 224 miliwn o lyfrynnau mewn 720 o ieithoedd er mwyn helpu pobl i ddysgu sut i ddarllen neu i helpu’r rhai sydd heb lawer o addysg. a

a Er enghraifft, mae’r llyfryn Apply Yourself to Reading and Writing ar gael mewn 123 o ieithoedd, ac mae’r llyfryn Gwrando ar Dduw ar gael mewn 610 o ieithoedd.