Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Chwith: Corwynt Ian, Florida, UDA, Medi 2022 (Sean Rayford/Getty Images); canol: Mam yn dianc gyda’i mab, Donetsk, Wcráin, Gorffennaf 2022 (Alex Chan Tsz Yuk/SOPA Images/LightRocket via Getty Images); de: Profion COVID, Beijing, Tsieina, Ebrill 2022 (Kevin Frayer/Getty Images)

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

2022: Blwyddyn o Helynt—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

2022: Blwyddyn o Helynt—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Yn ystod 2022, mae’r newyddion wedi bod yn llawn o ryfeloedd, problemau economaidd, a thrychinebau naturiol. Dim ond y Beibl sy’n esbonio gwir ystyr y digwyddiadau hyn.

Gwir ystyr digwyddiadau 2022

 Mae digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf yn ei gwneud hi’n amlwg ein bod ni’n byw yn ystod cyfnod mae’r Beibl yn ei alw “y dyddiau olaf.” (2 Timotheus 3:1) Cychwynnodd y cyfnod hwnnw ym 1914. Dewch inni gymharu beth ragfynegodd y Beibl â beth sydd wedi digwydd yn ddiweddar:

 ‘Rhyfeloedd.’Mathew 24:6.

  •   “2022 Oedd y Flwyddyn Daeth Helbul Rhyfel yn ôl i Ewrop.” a

 Gweler yr erthygl “Rwsia yn Ymosod ar Wcráin.”

 ‘Prinder bwyd.’Mathew 24:7.

  •   “2022: Blwyddyn o Newyn Ofnadwy.” b

 “Heintiau.”Luc 21:11.

  •   “Daeth polio yn ôl, daeth brech y mwncïod yn broblem fawr, ac mae effeithiau COVID-19 yn dal ar led. Mae’r sefyllfa wedi ei gwneud hi’n amlwg pa mor beryglus ydy afiechydon heintus a pha mor agored i niwed mae dynolryw.” c

 Gweler yr erthygl “6 Miliwn o Farwolaethau COVID.”

 “Pethau dychrynllyd.”Luc 21:11.

  •   “Tymheredd uchel, sychder, tanau gwyllt, a llifogydd. Yn sicr, bydd haf 2022 yn cael ei gofio am ei dywydd eithafol a wnaeth nid yn unig achosi cymaint o ddifrod, ond hefyd lladd cannoedd ar filoedd o bobl, ac achosi i filiynau ledled y byd golli eu tai.” d

 Gweler yr erthygl “Tymereddau Uwch Nag Erioed ar Draws y Byd.”

 ‘Cynnwrf [neu, “gwrthryfeloedd,” tdn.].’Luc 21:9.

  •   “Gan fod pobl mor ddig am broblemau economaidd, yn enwedig chwyddiant uchel, roedd ’na brotestiadau enfawr yn erbyn llywodraethau yn 2022.” e

 Gweler yr erthygl “Chwyddiant yn Codi yn Fyd-Eang.”

Beth fydd yn digwydd blwyddyn nesaf?

 All neb wybod yn sicr beth fydd yn digwydd yn 2023. Ond, rydyn ni’n gwybod bydd Teyrnas Dduw, sef ei lywodraeth nefol, yn gwneud newidiadau mawr ar y ddaear yn fuan. (Daniel 2:44) Bydd y llywodraeth honno yn cael gwared ar bopeth sy’n achosi dioddefaint ac yn sicrhau bydd ewyllys Duw yn cael ei wneud ar y ddaear.—Mathew 6:9, 10.

 Rydyn ni’n eich annog chi i ddilyn cyngor Iesu Grist a bod yn effro i sut mae digwyddiadau’r byd yn cyflawni proffwydoliaethau’r Beibl. (Marc 13:37) Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau dysgu mwy am sut gall y Beibl eich helpu chi a’ch teulu nawr a rhoi gobaith go iawn am y dyfodol.

a AP News, “2022 Was Year the Horror of War Returned to Europe,” gan Jill Lawless, Rhagfyr 8, 2022.

b Rhaglen Fwyd y Byd, “A Global Food Crises.”

c JAMA Health Forum, “Living in an Age of Pandemics—From COVID-19 to Monkeypox, Polio, and Disease X,” gan Lawrence O. Gostin, JD, Medi 22, 2022.

d Earth.Org, “What’s Behind the Record-Breaking Extreme Weather Events of Summer 2022?” gan Martina Igini, Hydref 24, 2022.

e Carnegie Endowment for International Peace, “Economic Anger Dominated Global Protests in 2022,” gan Thomas Carothers a Benjamin Feldman, Rhagfyr 8, 2022.