Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Ahmad Gharabli/AFP via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

A All y Cenhedloedd Uno i Osgoi Trychineb Hinsawdd?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

A All y Cenhedloedd Uno i Osgoi Trychineb Hinsawdd?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar ddydd Sul, Tachwedd 20, 2022, daeth Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP27) i ben. Cafodd cytundeb ei wneud i roi arian i helpu gwledydd tlawd i ddelio â thrychinebau hinsawdd. Ond mae llawer yn cydnabod na fydd hyn yn datrys y broblem yn gyfan gwbl.

  •   “Dw i’n falch ein bod ni wedi creu cronfa i helpu’r rhai sy’n dioddef oherwydd trychinebau hinsawdd,” meddai António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ar Dachwedd 19, 2022. “Yn amlwg, fydd hyn ddim yn ddigon . . . Mae ein planed ni yn dal ar ymyl y dibyn.”

  •   “Mae’r ddaear yn dal ar fin trychineb hinsawdd.”—Mary Robinson, cyn-lywydd Iwerddon a chyn Uchel Comisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol, Tachwedd 20, 2022.

 Mae pobl ifanc yn enwedig yn poeni am ddyfodol ein planed. Ond, a all y cenhedloedd weithio gyda’i gilydd a chadw eu haddewid i ddatrys newid hinsawdd? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

A fydd y cenhedloedd yn uno ac yn llwyddo?

 Mae’r Beibl yn dangos bod ’na ond hyn a hyn all pobl ei wneud i ddatrys y broblem, hyd yn oed gyda’r cymhellion gorau a gwaith caled. Dyma ddau reswm pam:

  •   “Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi ei blygu.”—Pregethwr 1:15.

     Ystyr: Mae ’na derfyn i faint mae llywodraethau yn gallu ei wneud oherwydd doedd pobl ddim i fod i reoli eu hunain. (Jeremeia 10:23) Hyd yn oed petai’r cenhedloedd yn uno, fyddan nhw ddim yn gallu datrys problemau’r byd, ni waeth pa mor galed maen nhw’n trio.

  •   “Bydd dynion yn eu caru eu hunain, yn caru arian, . . . yn gwrthod cytuno â phobl eraill.”—2 Timotheus 3:2, 3.

     Ystyr: Roedd y Beibl yn gywir wrth ddweud byddai pobl yn ein dyddiau ni yn hunanol ac gwrthod cydweithio er lles pawb.

Rheswm dros obeithio

 Dydy dyfodol ein planed ddim yn dibynnu ar addewidion gan lywodraethau dynol. Mae Duw wedi penodi rheolwr medrus dros y byd, sef Iesu Grist. Dyma mae’r Beibl yn ei ddweud amdano:

  •   “Bydd e’n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.”—Eseia 9:6.

 Iesu ydy Brenin Teyrnas Dduw, sef llywodraeth nefol. (Mathew 6:10) Mae ganddo’r pŵer, y doethineb, a’r awydd i ofalu am ein planed a’r bobl arni. (Salm 72:12, 16) O dan ei arweiniad, bydd y llywodraeth nefol hon yn stopio’r rhai sy’n “dinistrio’r ddaear” ac yn trwsio hinsawdd y ddaear fel ei fod yn hollol iach unwaith eto.—Datguddiad 11:18; Eseia 35:1, 7.

 I ddysgu mwy am y ffordd orau o ddatrys trychinebau hinsawdd, darllenwch yr erthygl “Newid Hinsawdd a’n Dyfodol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud.”