Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am yr Argyfwng Dŵr Byd-Eang?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am yr Argyfwng Dŵr Byd-Eang?

 Mae angen dŵr glân ar bawb er mwyn aros yn fyw. Ond mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, António Guterres, wedi rhybuddio: “Gyda’r gofyn am ddŵr yn parhau i gynyddu ledled y byd, rydyn ni’n wynebu argyfwng dŵr difrifol.” Mae eisoes yn anodd i biliynau o bobl o gwmpas y byd gael hyd i ddŵr yfed glân.

Strdel/AFP via Getty Images

 A ddaw’r dydd pan fydd digon o ddŵr i bawb? Neu a fyddwn ni’n gorfod delio o hyd ag argyfyngau dŵr? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Addewidion y Beibl am y cyflenwad dŵr

 Mae’r Beibl yn dweud y bydd prinder dŵr yn perthyn i’r gorffennol cyn bo hir a bydd digonedd o ddŵr glân i bawb.

 “Bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch. Bydd y tywod poeth yn troi’n bwll dŵr, a’r tir sych yn ffynhonnau’n ffrydio.”—Eseia 35:6, 7.

 Pam gallwn ni gredu’r addewid hwnnw? Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y ffordd mae’r ddaear wedi ei dylunio.

Sylwadau’r Beibl am y ddaear a’r gylchred ddŵr

 “[Duw] a wnaeth y ddaear . . . nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni.”—Eseia 45:18.

 Creodd Duw’r ddaear er mwyn iddi gynnal bywyd, ac felly fe luniodd systemau naturiol a fyddai’n cynhyrchu digonedd o ddŵr.

 “Mae [Duw yn] codi dafnau o ddŵr sy’n diferu’n law mân fel tarth. Mae’r cymylau’n tywallt y glaw, mae’n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.”—Job 36:27, 28.

 Mae’r geiriau hyn yn ddisgrifiad syml o’r system naturiol a dibynadwy y mae Duw wedi ei dylunio i gyflenwi ac i ailgylchu dŵr. Mae dŵr yn codi o’r môr ac o’r tir drwy anweddiad, yn ffurfio cymylau, ac yn disgyn ar ffurf glaw, gan sicrhau cyflenwad cyson o ddŵr glân ar gyfer pobl ac anifeiliaid.—Pregethwr 1:7; Amos 5:8.

 “Bydda i’n anfon glaw ar yr amser iawn, er mwyn i gnydau dyfu ar y tir, a ffrwythau ar y coed.”—Lefiticus 26:4.

 Pobl amaethyddol oedd yr Israeliaid gynt, ac addawodd Duw y byddai’n eu bendithio drwy anfon glaw yn rheolaidd er mwyn sicrhau cynaeafau llwyddiannus. Mae Duw yn gwybod bod ffermwyr yn dibynnu ar lawogydd er mwyn tyfu bwyd.

 Yn fuan, bydd Duw yn bendithio’r ddaear gyfan fel yr oedd yn bendithio Israel gynt. (Eseia 30:23) Yn y cyfamser, mae argyfyngau dŵr yn dod yn fwy cyffredin mewn llawer o wledydd, a dim ond rhan o’r broblem yw diffyg glaw. Beth arall mae’r Beibl yn ei ddweud am yr ateb i’r problemau dŵr a welwn ni heddiw?

Sut caiff yr argyfwng dŵr ei ddatrys?

 Mae’r Beibl yn dangos bod Duw, drwy ei Deyrnas, yn mynd i ddatrys yr holl broblemau sy’n effeithio ar y blaned, gan gynnwys yr argyfwng dŵr. (Mathew 6:9, 10) Mae Teyrnas Dduw yn llywodraeth nefol a fydd yn rheoli dros y ddaear gyfan. (Daniel 2:44; Datguddiad 11:15) Bydd Teyrnas Dduw yn gwneud pethau sy’n amhosib i lywodraethau dynol—fe fydd yn cael gwared ar y pethau sy’n achosi problemau dŵr.

 Problem: Mae newid hinsawdd yn amharu’n ddifrifol ar y cydbwysedd yn y gylchred ddŵr. O ganlyniad gwelwn gyfnodau o sychder difrifol yn ogystal â llifogydd enbyd, naill ai oherwydd glawogydd trymion neu am fod lefel y môr yn codi.

 Ateb: Bydd Teyrnas Dduw yn adfer cydbwysedd naturiol yr amgylchedd, er mwyn i’r blaned ffynnu eto. Mae Duw wedi addo: “Edrychwch! Rydw i’n gwneud pob peth yn newydd.” (Datguddiad 21:5) Bydd tir sych yn cael digonedd o law a bydd bywyd yn blodeuo mewn mannau na all neb fyw ynddyn nhw ar hyn o bryd. (Eseia 41:17-20) Yn nwylo Iesu Grist, bydd Teyrnas Dduw hefyd yn rheoli grymoedd naturiol y ddaear.

 Pan oedd Iesu ar y ddaear, tawelodd storm ddychrynllyd. Mae hyn yn rhoi cipolwg inni ar y grym mae Duw wedi ei roi i Iesu. (Marc 4:39, 41) Gyda Christ yn Frenin ar Deyrnas Dduw, ni fydd trychinebau naturiol yn digwydd. Bydd pobl yn byw bywydau heddychlon a diogel, heb ofni trychinebau o unrhyw fath.

 Problem: Mae pobl na all weld yn ddigon pell a busnesau barus yn cyfrannu at ddiffyg dŵr glân drwy lygru afonydd, llynnoedd, a chronfeydd tanddaearol.

 Ateb: Bydd Duw yn glanhau’r ddaear ac yn adfer cyflwr yr afonydd, y llynnoedd, y moroedd, a’r pridd. Caiff y ddaear ei throi’n baradwys. Mewn iaith farddonol, mae’r Beibl yn dweud: “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo​—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.

 Beth fydd yn digwydd i’r rhai sydd heb unrhyw barch tuag at yr amgylchedd nac at gyd-ddyn? Mae Duw wedi dweud ei fod yn mynd “i ddinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:18; Diarhebion 2:21, 22.

 Problem: Nid yw’r cyflenwad dŵr yn cael ei reoli’n effeithiol; mae dŵr yn cael ei ddefnyddio’n gyflymach nag y mae modd ei ail-gyflenwi.

 Ateb: Diolch i’r Deyrnas, ewyllys Duw yn hytrach nag ewyllys pobl hunanol a fydd yn ‘digwydd ar y ddaear.’ (Mathew 6:9, 10) O dan Deyrnas Dduw, bydd pobl yn cael yr addysg orau oll. “Bydd y ddaear yn llawn pobl sy’n nabod yr ARGLWYDD,” meddai Eseia 11:9. Drwy ddod i adnabod Duw a’i garu, a dod i garu popeth y mae Duw wedi ei greu, bydd dynolryw yn gallu gofalu’n iawn am ein planed a’i hadnoddau naturiol.

  •    I ddysgu mwy am beth y mae Teyrnas Dduw yn mynd i’w wneud, gweler yr erthygl “Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

  •    Darllenwch bennod 35 o lyfr Eseia yn y Beibl i weld sut caiff y ddaear ei throi’n baradwys.

  •    Gwyliwch y fideo Pam Creodd Duw y Ddaear? i ddysgu mwy am bwrpas Duw ar gyfer y ddaear a’r ddynoliaeth.