Ydy’r Byd yn Dod i Ben? Beth Yw’r Apocalyps?
Beth sy’n dod i’ch meddwl pan fyddwch chi’n clywed y gair “apocalyps”? Efallai eich bod yn meddwl am drychineb byd-eang, efallai un sy’n dod â bywyd i ben ar y ddaear. Mae rhai yn credu bod y byd yn anelu at y fath drychineb, yn enwedig pan fyddan nhw’n darllen adroddiadau newyddion fel y canlynol:
“Mae rhyfel niwclear p’un a yw’n cael ei ddechrau drwy gynllun, camgymeriad, neu gamddealltwriaeth yn bosibilrwydd go iawn.”—Bulletin of the Atomic Scientists.
“Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi gweld cyfres anhygoel o stormydd, tanau mewn coedwigoedd, sychder mawr, cwrel yn marw, tymheredd mawr, a llifogydd o gwmpas y byd. A’r rhain i gyd yn torri pob record.”—National Geographic.
“Heidiau o locustiaid yn Affrica—y gwaethaf mewn degawdau.”—The Associated Press.
A fydd y byd yn cael ei ddinistrio mewn apocalyps byd-eang? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?
A fydd ein daear ni’n dod i ben?
Na fydd. Mae Gair Duw, y Beibl, yn ein sicrhau y bydd y ddaear yn aros am byth. (Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn hytrach na ddinistrio’r ddaear a greodd, mae Duw yn mynd i “ddinistrio’n llwyr y rhai hynny sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:18.
Ydy’r byd yn dod i ben?
Yn ôl y Beibl, y “byd” fydd yn dod i ben ydy byd dynolryw sydd yn anwybyddu Duw ac yn dilyn eu chwantau hunanol. Fel y gwnaeth yn nyddiau Noa, bydd Duw yn rhoi diwedd ar “fyd y rhai annuwiol.”—2 Pedr 2:5, BCND; 3:7.
Fel mae 1 Ioan 2:17 yn dweud, “Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben.” Mae’r adnod yn dangos y bydd Duw yn dinistrio, nid y blaned lythrennol, ond y bobl sy’n mynnu dilyn eu chwantau annuwiol.
Pa bryd daw’r diwedd?
Dydy’r Beibl ddim yn dweud wrthon ni’n union pryd fydd y diwedd yn dod. (Mathew 24:36) Ond mae’n awgrymu bod y diwedd yn agos. Mae’r Beibl yn proffwydo’r canlynol:
Byddai digwyddiadau fel rhyfeloedd, prinder bwyd, epidemigion, a daeargrynfeydd pwerus yn digwydd “mewn gwahanol leoedd.”—Mathew 24:3, 7, 14; Luc 21:10, 11; Datguddiad 6:1-8.
Mi fyddai pobl yn gyffredinol yn hunanol dros ben. Er enghraifft, bydden nhw’n “byw er mwyn gwneud arian,” “yn anniolchgar,” ac “yn gwbl afreolus.”—2 Timotheus 3:1-5.
Mae llawer o bobl yn cytuno bod cyflwr y byd ers 1914 wedi adlewyrchu beth mae’r Beibl wedi ei broffwydo, a bod diwedd y byd yn agos. Am fanylion pellach, gweler yr erthyglau “What Does Bible Chronology Indicate About the Year 1914?” a “Beth Yw Arwyddion y “Dyddiau Diwethaf” neu’r “Cyfnod Olaf”?”
Beth yw ystyr “apocalyps” yn y Beibl?
Mae’r gair Groeg gwreiddiol a gyfieithir “apocalyps” mewn rhai Beiblau yn golygu “dadorchuddio” neu “datguddio.” Yn aml bydd y gair hwnnw yn disgrifio datgelu gwybodaeth a oedd wedi cael ei guddio. Mae’r Beibl hefyd yn siarad am yr “Arglwydd Iesu yn dod i’r golwg [neu, apocalyps],” sy’n digwydd pan fydd Iesu yn cael ei ddatguddio fel yr un gyda’r grym i gael gwared ar bob dylanwad drygionus a gwobrwyo’r rhai sy’n addoli Duw.—2 Thesaloniaid 1:6, 7; 1 Pedr 1:7, 13.
Mae llyfr olaf y Beibl yn cael ei enwi A·po·caʹlu·psis a, neu Datguddiad, am ei fod yn datgelu digwyddiadau’r dyfodol. (Datguddiad 1:1) Mae gan y llyfr hwn newyddion da a neges o obaith. (Datguddiad 1:3) Mae’n dangos y bydd Duw yn cael gwared ar bob anghyfiawnder ac yn troi’r ddaear yn baradwys. Pryd hynny, fydd pobl ddim mwyach yn dioddef poen gorfforol, poen feddyliol, na hyd yn oed marwolaeth. (Datguddiad 21:3, 4)
Hoffech chi ddysgu mwy am yr addewidion hyfryd hyn o’r Beibl? Mae Tystion Jehofa yn cynnig rhaglen astudio’r Beibl a all eich helpu chi, a honno’n rhad ac am ddim. Beth am gysylltu â nhw heddiw?
a Mae nodyn ymyl y ddalen ar ddechrau llyfr Datguddiad yn fersiwn William Salesbury yn galw’r llyfr hwnnw yn “Apocalypsis.”