Ydy Safonau Moesol y Beibl yn Berthnasol Heddiw?
Mae llawer o bobl, hyd yn oed y rhai sy’n honni eu bod yn Gristnogion, yn teimlo bod safonau moesol y Beibl ynglŷn â rhyw a phriodas yn henffasiwn. Er mwyn mynd gyda’r oes, mae rhai enwadau wedi newid yr hyn maen nhw’n ei ddysgu ynglŷn â beth sy’n ymddygiad iawn neu’n anghywir. Ydy safonau’r Beibl ynglŷn â drwg a da yn bwysig heddiw? Ydy. Mae’r erthygl hon yn esbonio sut gwyddon ni bod hynny’n wir.
Mae pobl angen safonau Duw ynglŷn â drwg a da
Cafodd bodau dynol eu creu i ddibynnu ar eu Creawdwr am arweiniad. Mae’r Beibl yn dweud “na all pobl reoli eu bywydau. Dŷn nhw ddim yn gallu trefnu beth sy’n mynd i ddigwydd.” (Jeremeia 10:23) Er bod Jehofa a Dduw wedi ein creu ni gyda’r gallu i wneud penderfyniadau, chawson ni ddim yr hawl na’r gallu i benderfynu droston ni’n hunain beth sy’n iawn neu beidio. Mae Duw eisiau inni ddibynnu arno ef am hynny.—Diarhebion 3:5.
Cawn ni hyd i arweiniad moesol yn y Beibl. Ystyriwch ddau reswm pam mae’r safonau hynny mor werthfawr.
Cawson ni ein creu gan Dduw. (Salm 100:3) Ac yntau’n Greawdwr inni, mae Jehofa Dduw yn gwybod yn union beth sydd ei angen arnon ni i gadw’n iach ac yn hapus yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. (Galatiaid 6:7) Hefyd, mae Jehofa eisiau inni gael y bywyd gorau posib. Am y rheswm hynny, mae’r Beibl yn disgrifio Duw fel yr Un “sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.”—Eseia 48:17.
Gall ein dymuniadau ein camarwain ni. Mae llawer yn meddwl y gallan nhw ddweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da drwy ddilyn eu calonnau—hynny yw eu dymuniadau. Ond mae’r Beibl yn dweud bod y galon yn “fwy twyllodrus na dim, a does dim gwella arni.” (Jeremeia 17:9) Os nad yw’r galon yn cael ei harwain gan ddoethineb Dduw, mi fydd yn gweithredu mewn ffordd fyddwn ni’n ei difaru wedyn.—Diarhebion 28:26; Pregethwr 10:2.
A ddylai arweinwyr crefyddol anwybyddu cyngor y Beibl ar ddrwg a da?
Na ddylen! Mae gan y Beibl y gwirionedd am Dduw a’r ffordd mae ef eisiau inni ymddwyn. (1 Corinthiaid 6:9-11; Galatiaid 5:19-23) Mae’n dymuno i bobl ddod i wybod y pethau hyn. (1 Timotheus 2:3, 4) Felly mae rhaid i weinidogion Cristnogol ddysgu beth mae Gair Duw yn ei ddweud.—Titus 1:7-9.
Mae llawer sydd ddim eisiau gwrando ar safonau moesol y Beibl yn edrych am athrawon crefyddol a “fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed.” (2 Timotheus 4:3) Eto, mae gan Air Duw rybudd sobreiddiol: “Gwae’r rhai sy’n galw drwg yn dda a da yn ddrwg.” (Eseia 5:20) Mae’n amlwg y bydd Duw yn cosbi arweinwyr crefyddol sydd ddim yn dysgu pobl beth mae Duw’n dweud sy’n ddrwg a da.
Ydy gwerthoedd moesol y Beibl yn annog pobl i fod yn anoddefgar?
Nac ydy. Mae’r rhai sydd eisiau plesio Duw yn dilyn esiampl a dysgeidiaethau Iesu Grist. Dysgodd ei ddilynwyr i beidio â barnu eraill ond i ddangos cariad a pharch at bawb.—Mathew 5:43, 44; 7:1.
Dysgodd Iesu ei ddilynwyr i gadw safonau moesol Duw yn eu bywydau personol. Ond, dysgodd ef hefyd i dderbyn y ffaith y gall pobl eraill ddewis dilyn safonau gwahanol. (Mathew 10:14) Wnaeth Iesu ddim rhoi awdurdod i’w ddilynwyr ddefnyddio gwleidyddiaeth neu unrhyw fodd arall i orfodi eraill i ufuddhau i safonau Duw.—Ioan 17:14, 16; 18:36.
Beth yw rhai o’r buddion o fyw yn ôl safonau moesol y Beibl?
Bydd y rhai sy’n ceisio dilyn safonau Duw o ddrwg a da yn mwynhau buddion nawr ac yn y dyfodol. (Salm 19:8, 11) Dyma rhai ohonyn nhw:
Mwy o lawenydd.—Diarhebion 29:6.
Perthynas glòs â Duw.—Diarhebion 3:32.
Help Duw yn ystod adegau anodd.—Diarhebion 11:8.
Y gobaith o fyw am byth ar y ddaear.—Salm 37:29.
a Mae’r Beibl yn datgelu mai Jehofa yw enw Duw.—Salm 83:18.