Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH WYLIADWRUS!

Rhyfel yn Wcráin yn Gwaethygu Prinder Bwyd Byd-eang

Rhyfel yn Wcráin yn Gwaethygu Prinder Bwyd Byd-eang

 Ar Fai 19, 2022, gwnaeth Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig glywed gan fwy na 75 o swyddogion lefel uchel fod “argyfwng bwyd byd-eang, sydd eisoes wedi cael ei waethygu gan y pandemig COVID-19 a newid hinsawdd, yn dechrau arwain at newyn mewn llawer o lefydd ar draws y byd oherwydd y rhyfel yn Wcráin.” Yn fuan ar ôl hynny, dywedodd The Economist fod y “rhyfel yn arwain byd bregus tuag at newyn eang.” Gwnaeth y Beibl ragfynegi y byddai argyfyngau bwyd o’r fath yn digwydd yn ein hamser ni, ond eto mae hefyd yn ein helpu ni i ymdopi â nhw.

Gwnaeth y Beibl ragfynegi argyfyngau bwyd

  •    Proffwydodd Iesu: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd.”Mathew 24:7.

  •    Mae llyfr Datguddiad yn y Beibl yn disgrifio pedwar marchog symbolaidd. Mae un o’r marchogion hynny yn cynrychioli rhyfel. Mae un arall yn ei ddilyn sy’n cynrychioli newyn, amser pan fyddai bwyd yn cael ei gyfyngu a’i werthu am brisiau annheg. “Edrychais, ac yn sydyn roedd ceffyl du o mlaen i, a’r marchog ar ei gefn yn dal clorian yn ei law. Yna clywais lais . . . yn cyhoeddi’n uchel: ‘Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd!’”—Datguddiad 6:5, 6.

 Mae’r proffwydoliaethau Beiblaidd hyn am argyfyngau bwyd yn cael eu cyflawni nawr yn yr amser mae’r Beibl yn ei alw “y cyfnod olaf.” (2 Timotheus 3:1) I ddysgu mwy am “y cyfnod olaf” ac am bedwar marchog Datguddiad, gwyliwch y fideo Mae’r Byd Wedi Newid Ers 1914 a darllenwch yr erthygl “The Four Horsemen—Who Are They?

Sut mae’r Beibl yn gallu helpu

  •    Mae’r Beibl yn cynnwys cyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu ni i ymdopi ag amgylchiadau anodd, gan gynnwys prisiau bwyd uchel neu hyd yn oed prinder bwyd. Gallwch chi weld rhai enghreifftiau yn yr erthygl “How to Live on Less.

  •    Mae’r Beibl hefyd yn rhoi gobaith inni y bydd pethau’n gwella. Mae’n addo amser pan fydd “digonedd o ŷd yn y wlad” a bydd gan bawb ddigon i’w fwyta. (Salm 72:16) I ddysgu mwy am obaith y Beibl am y dyfodol a pham gallwch chi ei drystio, darllenwch yr erthygl “Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell.”