Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Welwn Ni Fywyd Normal Eto? Sut Gall y Beibl Helpu Mewn Byd ar ôl y Pandemig

A Welwn Ni Fywyd Normal Eto? Sut Gall y Beibl Helpu Mewn Byd ar ôl y Pandemig

 “’Dyn ni i gyd eisiau ein normalrwydd yn ôl.”—Angela Merkel, canghellor yr Almaen.

 Wrth i’r pandemig COVID-19 effeithio ar bobl o amgylch y byd, efallai eich bod chi wedi cael eich hunan yn gofyn yr un cwestiwn. Ond beth mae “normal” yn ei olygu? Beth mae pobl yn gobeithio ei wneud?

  •   Byw eu bywydau fel yr oedden nhw cyn y pandemig. Mae rhai yn dyheu am gael treulio mwy o amser gyda’i ffrindiau, i gael ysgwyd llaw neu gael cwtsh. Maen nhw hefyd ar bigau’r drain ac yn ysu am gael teithio unwaith eto. Yn ôl y Dr Anthony Fauci a, byddai “adennill rywfaint o normalrwydd” yn golygu mynd i “dai bwyta, theatrau, [a’r] math yna o beth.”

  •   Gwella eu bywydau. Mae rhai yn gweld cyfle am “normalrwydd newydd,” sydd yn well na’r bywyd a gawson nhw gynt. Maen nhw’n teimlo bod ’na bethau sydd angen eu newid yn yr hen fyd ’ma, fel y pwysau gwaith cyson a’r oriau hir sy’n llethu dyn, y ffordd mae pobl yn cael eu trin oherwydd eu hil neu eu statws cymdeithasol, a’r ffaith bod mwy a mwy o bobl yn dioddef oherwydd salwch meddwl. Yn ôl Klaus Schwab, sylfaenydd Fforwm Economaidd y Byd, “Mae’r pandemig yn rhoi cyfle prin inni feddwl a dychmygu sut fath o fyd ’dyn ni eisiau, yna cawn fynd ati i’w aildrefnu. Ond ffenestr gul yw hi, fydd y cyfle hwnnw ddim yn para am byth.”

 Mae eraill wedi cael eu llorio gymaint gan y pandemig maen nhw’n meddwl bod bywyd “normal” wedi llithro o’u gafael. Er enghraifft, mae llawer wedi colli eu swyddi, eu cartrefi, eu hiechyd neu, yn waeth byth, wedi colli eu hanwyliaid.

 Wrth gwrs, dydy hi ddim yn bosib rhagweld sut fath o fyd fydd hi pan ddaw’r pandemig i ben. (Pregethwr 9:11) Ond, gall y Beibl ein helpu ni i fod yn realistig am y dyfodol ac i ymdopi â beth bynnag sy’n digwydd. Ar ben hynny, mae’r Beibl yn siarad am ddyfodol gallwn ni fod yn sicr ohono, un efallai nad oeddech chi’n ei ddisgwyl.

Cael yr agwedd iawn tuag at y pandemig COVID-19

 Flynyddoedd maith yn ôl, rhagfynegodd y Beibl y byddai clefydau neu “heintiau” mewn un man ar ôl y llall yn ystod diwedd y drefn bresennol. (Luc 21:11; Mathew 24:3) Os gofiwn ni hyn pan fyddwn ni’n meddwl am bandemig COVID-19, gallwn ni weld y pandemig fel un o’r digwyddiadau pwysig y proffwydodd y Beibl amdanyn nhw, sy’n cynnwys rhyfeloedd, daeargrynfeydd mawr, a phrinder bwyd.

 Sut mae gwybod hyn yn helpu: Er y gall sefyllfa’r pandemig wella, mae’r Beibl yn ein rhybuddio ein bod ni’n byw mewn “adegau ofnadwy o anodd.” (2 Timotheus 3:1) Gall gwybod hyn ein helpu i fod yn realistig ynglŷn â disgwyliadau bywyd yn yr amseroedd heriol hyn.

 Mae’r Beibl yn rhoi’r syniad cywir: Mae ein byd, sydd yn cael ei blagio gan un her ar ôl y llall, yn mynd trwy gyfnod o newid. Beth fydd y newid hwnnw?

Dyfodol annisgwyl ar ôl y pandemig

 Rhagfynegodd y Beibl nid yn unig y problemau difrifol rydyn ni’n eu hwynebu nawr ond hefyd y dyddiau gwell sydd ar y gorwel. Mae’n disgrifio dyfodol sy’n llawer gwell na’r hyn gall llywodraethau dynol ei gynnig, a dim ond Duw sy’n gallu rhoi’r dyfodol hwnnw inni. “Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen.”—Datguddiad 21:4.

 Mae Jehofa b Dduw yn addo: “Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!” (Datguddiad 21:5) Bydd yn datrys problemau’r byd, gan gynnwys y rhai sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i’r pandemig. Bydd yn darparu’r canlynol:

  •   Iechyd Corfforol a Meddyliol, heb unrhyw salwch na marwolaeth.—Eseia 25:8; 33:24.

  •   Gwaith sy’n dod â gwir foddhad, dim swyddi sy’n eich blino chi gymaint eich bod chi’n hollol ddiegni.—Eseia 65:22, 23.

  •   Diwedd tlodi a newyn, bydd pawb yn llewyrchu.—Salm 72:12, 13; 145:16.

  •   Gwellhad o drawma emosiynol, ynghyd â’r gobaith o weld ein hanwyliaid marw yn dod yn ôl yn fyw.—Eseia 65:17; Actau 24:15.

 Mae gwybod hyn yn helpu: Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r gobaith hwn yn obaith sicr—mae fel angor i’n bywydau ni” (Hebreaid 6:19) Gall y gobaith o bethau gwell i ddod sadio ein hemosiynau. Gall ein helpu ni i ymdopi â sefyllfaoedd anodd heddiw, lleddfu ein pryder, a chadw ni’n hapus.

 Ond a allwch chi gredu addewidion y Beibl yn llwyr? Gweler yr erthygl “Y Beibl—Ffynhonnell Ddibynadwy o Wirionedd.”

Egwyddorion y Beibl ar gyfer ymdopi â bywyd ar ôl y pandemig

  •   Trysori bywyd

     Adnod: “Mae doethineb yn cadw’r doeth yn fyw.”—Pregethwr 7:12.

     Beth mae’n ei olygu i chi: Gwnewch benderfyniadau doeth fel eich bod chi’n llai tebygol o fynd yn sâl. Ceisiwch bwyso a mesur y risg yn eich ardal chi. Ystyriwch reolau iechyd a diogelwch, lefel yr haint yn lleol, a chanran y boblogaeth sydd wedi cael ei brechu’n llawn.

  •   Byddwch yn ofalus

     Adnod: “Mae rhywun doeth yn cymryd gofal, ac yn troi cefn ar ddrygioni, ond mae’r ffŵl yn rhy hyderus ac yn rhuthro i mewn yn fyrbwyll.”—Diarhebion 14:16.

     Beth mae’n ei olygu i chi: Cymerwch bob gofal i amddiffyn eich iechyd. Mae arbenigwyr yn disgwyl i goronafeirws fod o gwmpas am beth amser eto.

  •   Defnyddiwch wybodaeth ddibynadwy

     Adnod: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”—Diarhebion 14:15.

     Beth mae’n ei olygu i chi: Dewiswch pa gyngor y byddwch yn ei ddilyn. Mae eich dewis chi yn bwysig—mae’n bosib ichi wneud drwg i’ch iechyd drwy wneud penderfyniadau sydd wedi eu seilio ar wybodaeth anghywir.

  •   Arhoswch yn bositif

     Adnod: “Paid gofyn, ‘Pam oedd pethau gymaint gwell ers talwm?’ Dydy’r rhai doeth ddim yn meddwl felly.”—Pregethwr 7:10.

     Beth mae’n ei olygu i chi: Byddwch yn benderfynol o wneud y gorau o dan yr amgylchiadau. Osgowch hiraethu am fywyd cyn y pandemig gan feddwl bod pethau’n well pryd hynny, a pheidiwch â hel meddyliau am y cyfleoedd wnaethoch chi golli oherwydd cyfyngiadau’r pandemig.

  •   Dangoswch barch tuag at eraill

     Adnod: “Rhowch barch i bawb.”—1 Pedr 2:17.

     Beth mae’n ei olygu i chi: Mae pobl wedi ymateb yn wahanol i’r pandemig a’r hyn mae wedi ei achosi. Parchwch eu barn, ond glynwch chi wrth eich penderfyniadau da. Byddwch yn ystyriol o’r rhai sydd heb gael eu brechu, y rhai hŷn, a’r rhai gyda phroblemau iechyd difrifol.

  •   Byddwch yn amyneddgar

     Adnod: “Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig.”—1 Corinthiaid 13:4.

     Beth mae’n ei olygu i chi: Byddwch yn garedig pan fydd eraill yn mynegi eu pryderon am fynd yn ôl i wneud pethau a oedd yn gwbl normal cyn y pandemig. Pan fyddwch chi’n mynd ati i gynllunio pethau wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau llacio, byddwch yn amyneddgar gyda chi’ch hun.

Sut mae’r Beibl yn helpu pobl i ymdopi yn ystod y pandemig

 Mae addewidion y Beibl am ddyfodol disglair yn rhoi cysur i Dystion Jehofa, ac yn eu helpu i weld y tu hwnt i’r pandemig. Byddan nhw’n cefnogi ei gilydd drwy ufuddhau i orchymyn y Beibl i ddod ynghyd i addoli. (Hebreaid 10:24, 25) Mae croeso i bawb fynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa, sy’n cael eu cynnal yn rhithiol yn ystod y pandemig.

 Mae eraill yn cytuno bod cyfarfod gyda Thystion Jehofa i addoli wedi bod o gymorth yn ystod y dyddiau anodd hyn. Er enghraifft, derbyniodd dynes oedd yn sâl gyda COVID-19 wahoddiad i ymuno â Thystion Jehofa yn eu cyfarfodydd rhithiol. Gwnaeth y cyfarfodydd hyn ei helpu yn emosiynol er gwaethaf ei phroblemau iechyd o achos y feirws. Bellach mae hi’n dweud: “Dw i’n teimlo fy mod i’n rhan o’r teulu hwn hefyd. Mae darllen y Beibl yn rhoi heddwch meddwl a llonyddwch mewnol imi. Mae’n helpu fi i ganolbwyntio ar fy ngobaith ar gyfer y dyfodol yn hytrach nag ar fy mhroblemau. Diolch am helpu fi glosio at Dduw, rhywbeth dw i wedi bod yn ceisio ei wneud ers fy mhlentyndod.”

a Cyfarwyddwr Sefydliad Cenedlaethol ar Gyfer Alergedd a Chlefydau Heintus yn yr Unol Daleithiau.

b Jehofa yw enw Duw yn y Beibl.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.