Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sut i Fyw ar Lai o Arian

Sut i Fyw ar Lai o Arian

 Ydych chi’n cael eich gorfodi i fyw ar lai o arian oherwydd bod problemau economaidd wedi ei gwneud hi’n anodd ichi ennill bywoliaeth? Mae pandemigau, trychinebau naturiol, cynnwrf gwleidyddol, a rhyfeloedd yn gallu niweidio’r economi yn gyflym. Er bod colli eich cyflog yn sydyn yn gallu achosi stres, mae camau ymarferol sy’n seiliedig ar ddoethineb y Beibl yn gallu eich helpu i fyw ar lai o arian.

1. Derbyniwch eich amgylchiadau newydd.

 Egwyddor o’r Beibl: “Rydw i wedi dysgu’r gyfrinach o . . . sut i gael digonedd a sut i fynd heb ddigon.”—Philipiaid 4:12.

 Er y bydd gynnoch chi lai o arian nag o’r blaen, gallwch chi ddysgu i addasu i’ch amgylchiadau ariannol newydd. Os ydych chi’n derbyn realiti eich sefyllfa yn gyflym ac yn dechrau addasu, byddwch chi a’ch teulu yn gallu ymdopi’n well.

 Gwnewch ymchwil ar yr help ariannol sydd efallai ar gael ichi nawr gan y llywodraeth neu gyfundrefnau eraill. Gweithredwch yn gyflym, gan fod rhaglenni o’r fath yn aml yn gosod cyfnod penodol o amser ar gyfer gwneud cais i gael help.

2. Gweithiwch gyda’ch gilydd fel teulu.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae cynlluniau’n mynd ar chwâl heb ymgynghori, ond yn llwyddo pan fydd llawer yn rhoi cyngor.”—Diarhebion 15:22.

 Trafodwch y sefyllfa gyda’ch cymar a’ch plant. Drwy gyfathrebu’n dda, gallwch chi helpu pawb yn y teulu i ddeall y newidiadau angenrheidiol ac i’w cefnogi. A phan fydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd i fod yn ofalus ac i osgoi bod yn wastraffus, bydd eich arian yn mynd yn bellach.

3. Gwnewch gyllideb.

 Egwyddor o’r Beibl: ‘Eisteddwch i lawr a chyfri’r gost.’—Luc 14:28.

 Pan ydych chi’n cael eich gorfodi i fyw ar lai, mae’n fwy pwysig nag erioed i wybod lle mae eich holl arian yn mynd. Yn gyntaf, gwnewch gyllideb drwy restru’r incwm rydych chi’n ei ddisgwyl bob mis yn seiliedig ar eich sefyllfa newydd. Nesaf, ysgrifennwch yr hyn rydych chi’n ei wario bob mis ar hyn o bryd, er eich bod chi’n gwybod bod rhaid i hyn newid. Ceisiwch gynnwys swm penodol o arian rydych chi eisiau ei neilltuo bob mis ar gyfer costau annisgwyl neu argyfwng.

 Awgrym: Pan fyddwch chi’n tracio eich costau, peidiwch ag anghofio cynnwys y pethau bach rydych chi’n eu prynu. Efallai byddwch chi’n synnu ar faint mae’r costau hynny’n cynyddu dros amser. Er enghraifft, ar ôl tracio ei gostau, sylweddolodd un dyn ei fod yn gwario cannoedd o ddoleri bob blwyddyn ar gwm cnoi!

4. Blaenoriaethwch eich costau a gwnewch newidiadau.

 Egwyddor o’r Beibl: ‘Gwnewch yn siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig.’—Philipiaid 1:10.

 Cymharwch eich incwm â’ch costau, a dewiswch pa gostau gallwch chi eu dileu neu eu lleihau fel y gallwch chi fyw ar eich incwm llai. Meddyliwch am y pethau canlynol:

  •   Cludiant. Os oes gynnoch chi fwy nag un car, a allwch chi werthu un ohonyn nhw? Os oes gynnoch chi gar crand, a allwch chi ei werthu a chael un sy’n fwy economaidd? A allwch chi ddefnyddio cludiant cyhoeddus neu feic a byw heb gar yn gyfan gwbl?

  •   Adloniant. Ydych chi’n gallu canslo, hyd yn oed am gyfnod, danysgrifiadau teledu neu ffrydio? Oes ’na opsiynau eraill sy’n costio llai? Er enghraifft, efallai fod eich llyfrgell leol yn benthyg ffilmiau, e-lyfrau, a llyfrau llafar heb gost.

  •   Gwasanaethau. Trafodwch fel teulu sut i leihau eich costau dŵr, trydan, a thanwydd. Efallai fod diffodd goleuadau a threulio llai o amser yn cael cawod yn ymddangos fel pethau bach, ond gall arferion o’r fath helpu i arbed arian.

  •   Bwyd. Osgowch fwyta mewn bwytai. Yn hytrach, gwnewch brydau o fwyd gartref. Cynlluniwch eich prydau o fwyd, prynwch a choginio maint swmpus o fwyd pan fydd hynny’n bosib, ac ailddefnyddiwch yr hyn sydd ar ôl. Gwnewch restr cyn ichi fynd i’r siop i osgoi prynu pethau diangen. Prynwch fwydydd ffres sydd yn eu tymor, sydd fel arfer yn llai drud. Osgowch brynu bwyd sothach. Ystyriwch blannu gardd lysiau.

  •   Dillad. Prynwch ddillad dim ond pan fydd rhaid ichi ddisodli’r rhai sydd wedi gwisgo allan, nid i ddilyn y ffasiwn. Edrychwch am sêls ar ddiwedd y tymor neu ddillad sydd mewn cyflwr da mewn siop elusen neu siop ail-law. Rhowch eich dillad ar y lein ddillad os bydd y tywydd a’ch amgylchiadau yn caniatáu; bydd hyn yn arbed y costau trydan o ddefnyddio’r peiriant sychu.

  •   Prynu Pethau yn y Dyfodol. Cyn ichi brynu rhywbeth, gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydw i’n gallu fforddio hyn? Oes wir angen hyn arna i?’ Ydych chi’n gallu gohirio uwchraddio neu ddisodli peiriannau, dyfeisiau electronig, neu geir? Ar y llaw arall, ydych chi’n gallu gwerthu pethau dydych chi ddim yn eu defnyddio na’u hangen bellach? Gall gwneud hynny eich helpu i gael bywyd syml ac i ychwanegu at eich incwm.

 Awgrym: Pan fydd eich incwm yn cael ei leihau’n sydyn, efallai byddwch chi’n cael eich ysgogi i stopio arferion sy’n niweidiol ac yn ddrud, fel defnyddio tybaco, gamblo, neu gam-ddefnyddio alcohol. Bydd gwneud newidiadau o’r fath, nid yn unig yn eich helpu chi’n ariannol, ond hefyd yn gwella ansawdd eich bywyd.

5. Rhowch sylw i bethau ysbrydol.

 Egwyddor o’r Beibl: “Hapus ydy’r rhai sy’n ymwybodol fod ganddyn nhw angen ysbrydol.”—Mathew 5:3.

 Mae’r Beibl yn cynnig y cyngor cytbwys hwn: “Oherwydd mae doethineb, fel arian, yn gysgod i’n cadw’n saff. Ond mantais doethineb ydy hyn: mae doethineb yn cadw’r doeth yn fyw.” (Pregethwr 7:12) Mae doethineb o’r fath ar gael yn y Beibl, ac mae llawer o bobl wedi profi bod rhoi ei arweiniad ar waith yn eu helpu nhw i osgoi gorbryderu am bethau ariannol.—Mathew 6:31, 32.