BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Chwyddiant yn Codi yn Fyd-Eang—Beth Mae’r Beibl yn Ei Ddweud?
“Unwaith eto, mae economi’r byd mewn peryg.” Dyna rybudd llywydd Grŵp Banc y Byd mewn adroddiad ym Mehefin 2022. “Y tro hwn, mae’n wynebu chwyddiant uchel a thwf araf ar yr un pryd.”
Ac yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol: “Mae prisiau tanwydd a bwyd wedi cynyddu’n gyflym, ac yn taro’n galetaf bobl fregus mewn gwledydd ag incwm isel.”
Mae’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall pam ein bod ni’n wynebu’r fath broblemau economaidd heriol, sut gallwn ni ymdopi â nhw, a pha obaith sydd ar gyfer ateb parhaol.
Prisiau’n codi yn ystod “y dyddiau diwethaf”
Mae’r Beibl yn galw’r adeg rydyn ni’n byw ynddi “y dyddiau diwethaf.”—2 Timotheus 3:1, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Dywedodd Iesu y byddai “digwyddiadau dychrynllyd” yn rhywbeth amlwg yn ystod yr adeg hon. (Luc 21:11) Pan fydd chwyddiant yn mynd trwy’r to, mae’n codi ofn ar bobl. Maen nhw’n pryderu am eu dyfodol ac yn poeni a fydden nhw’n gallu darparu ar gyfer eu teulu.
Rhagfynegodd llyfr Datguddiad y byddai prisiau bwyd yn codi yn ystod y cyfnod hwn. “Yna clywais lais. . . . yn cyhoeddi’n uchel: ‘Cyflog diwrnod llawn am lond dwrn o wenith, neu am ryw ychydig o haidd!’”—Datguddiad 6:6.
I ddysgu mwy am “y dyddiau diwethaf” a’r broffwydoliaeth yn llyfr Datguddiad, gwyliwch y fideo Mae’r Byd Wedi Newid Ers 1914 a darllen yr erthygl “The Four Horsemen—Who Are They?”
Yr ateb i bob problem economaidd
“Byddan nhw’n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw; byddan nhw’n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta’u ffrwyth. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw, nac yn plannu i rywun arall fwyta’r ffrwyth.”—Eseia 65:21, 22.
“Boed digonedd o ŷd yn y wlad—yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd.”—Salm 72:16.
Mae Jehofa a yn addo: “Am fod yr anghenus yn dioddef trais, a’r tlawd yn griddfan mewn poen, dw i’n mynd i weithredu.”—Salm 12:5.
Yn fuan bydd Duw yn dod ag amodau economaidd annheg i ben, ac nid mewn un wlad yn unig ond ledled y byd. I weld sut, darllenwch yr erthygl “Ydy System Economaidd Deg yn Bosib?”
Ond hyd yn oed heddiw, gall y Beibl eich helpu chi i ddelio â phrisiau sy’n codi. Ym mha ffordd? Mae ganddo gyngor ymarferol ar sut i ddefnyddio eich arian yn ddoeth. (Diarhebion 23:4, 5; Pregethwr 7:12) I ddysgu mwy, darllenwch yr erthyglau “Gwarchod Eich Bywoliaeth” a “How to Live on Less.”
a Jehofa yw enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.