Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Anna Moneymaker/Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Gwyddonwyr yn Symud Cloc Dydd y Farn Ymlaen—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Gwyddonwyr yn Symud Cloc Dydd y Farn Ymlaen—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Ar 24 Ionawr, 2023, symudodd gwyddonwyr fys mawr Cloc Dydd y Farn a yn nes at hanner nos, sy’n cynrychioli diwedd y byd.

  •   “Ddydd Mawrth, cafodd ‘Cloc Dydd y Farn,’ sydd yn symbol o’r peryglon sy’n wynebu’r byd, ei symud yn nes at hanner nos nag erioed o’r blaen oherwydd y rhyfel yn Wcráin, ofn rhyfel niwclear, ac argyfwng yr hinsawdd.”—AFP International Text Wire.

  •   “Datgelodd gwyddonwyr ddydd Mawrth fod bys mawr ‘Cloc Dydd y Farn’ wedi cael ei symud i 90 eiliad cyn hanner nos—dyna’r agosaf y mae’r ddynolryw erioed wedi bod at armageddon.”—ABC News.

  •   “Mae panel o wyddonwyr rhyngwladol wedi rhybuddio bod y peryg y bydd y ddynoliaeth yn dinistrio ei hun yn fwy nag erioed o’r blaen.”—The Guardian.

 A fydd y ddaear a phawb arni’n cael eu dinistrio’n fuan? A ddylen ni fod ag ofn wrth feddwl am y dyfodol? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Beth fydd yn digwydd?

 Yn ôl y Beibl, “mae’r ddaear yn aros am byth” a bydd pobl “yn aros yno am byth.” (Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; Salm 37:29) Felly fydd pobl ddim yn dinistrio’r ddaear nac yn ei difetha i’r fath raddau na fydd unrhyw fywyd yn gallu bodoli.

 Sut bynnag, mae’r Beibl yn sôn am ddiwedd. Er enghraifft, mae’n dweud bod y “byd yn mynd heibio.”—1 Ioan 2:17.

Aros yn bositif

 Mae’r Beibl yn gallu ein helpu ni i aros yn bositif er gwaethaf y problemau yn y byd ar hyn o bryd. Ym mha ffordd?

 Er mwyn cael y budd mwyaf o’r Beibl, rydyn ni’n eich gwahodd chi i edrych ar ein cwrs astudio’r Beibl. Mae’r cwrs am ddim ac mae arweiniad ar gael.

a “Cloc symbolaidd yw Cloc Dydd y Farn, sy’n dangos pa mor agos ydyn ni at ddinistrio’r byd drwy’r dechnoleg beryglus rydyn ni wedi ei chreu. Metaffor yw’r cloc sy’n ein hatgoffa ni am y peryglon y mae’n rhaid inni fynd i’r afael â nhw os ydyn ni’n mynd i oroesi ar y blaned hon.”—Bulletin of the Atomic Scientists.