Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

YURI LASHOV/AFP via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Cristnogion a Rhyfel—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Cristnogion a Rhyfel—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Fel mae’r rhyfel yn Wcráin wedi ei ddangos, mae arweinwyr crefyddol Cristnogol yn annog pobl i gymryd ochrau yn y rhyfel. Sylwch ar sut mae clerigwyr yn cefnogi ddwy ochr y frwydr:

  •   “Anrhydedd mawr a diolch i’r holl filwyr sy’n amddiffyn eu gwlad, Wcráin, rhag yr ymosodwyr . . . ‘Dych chi yn ein calonnau a’n gweddïau, a ‘dyn ni’n eich cefnogi chi pob cam o’r ffordd.”—Metropolitan Epiphanius I o Kyiv, The Jerusalem Post, Mawrth 16, 2022.

  •   “Gwnaeth pennaeth Eglwys Uniongred Rwsia gynnal gwasanaeth ar gyfer milwyr Rwsia ar ddydd Sul. Dywedodd wrthyn nhw i amddiffyn eu gwlad ‘fel all ond y Rwsiaid ei wneud’ wrth i Moscow barhau â’r ymgyrch milwrol yn Wcráin.”—Reuters, Ebrill 3, 2022.

 A ddylai Cristnogion gymryd rhan mewn rhyfel? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Beth mae’r Beibl wir yn ei ddweud

 Mae’r Beibl yn dangos nad ydy’r rhai sydd wir yn dilyn Iesu Grist yn cymryd rhan mewn rhyfeloedd.

  •   “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy’n defnyddio’r cleddyf yn marw trwy’r cleddyf.”—Mathew 26:52.

     Ydy rhywun sy’n meddwl bod rhyfel yn iawn, neu sy’n brwydro mewn rhyfel, wir yn gwrando ar eiriau Iesu?

  •   “Rydw i’n rhoi gorchymyn newydd ichi: Mae’n rhaid ichi garu eich gilydd; yn union fel rydw i wedi eich caru chi, dylech chithau garu eich gilydd hefyd. Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.”—Ioan 13:34, 35.

     Ydy rhywun sy’n cefnogi rhyfel yn dangos y cariad sydd i fod yn amlwg ymysg dilynwyr Iesu?

 Am fwy o wybodaeth, darllenwch yr erthygl Is War Compatible With Christianity?

Cristnogion a rhyfel heddiw

 Ydy hi’n rhesymol i Gristnogion beidio â mynd i ryfel heddiw? Ydy. Wrth sôn am ein dyddiau ni, rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl o bob cenedl yn gwrando ar eiriau Iesu ac yn gwrthod ‘mynd i ryfel.’—Eseia 2:2, 4.

 Yn fuan, bydd “y Duw sy’n rhoi heddwch,” Jehofa, a yn defnyddio ei lywodraeth yn y nef i achub pobl “o afael gormes a thrais.”—Philipiaid 4:9; Salm 72:14.

a Jehofa yw enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.