Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Manuel Reino Berengui/DeFodi Images via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Ydy Cwpan y Byd Wir yn Uno Pobl?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Ydy Cwpan y Byd Wir yn Uno Pobl?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae disgwyl i tua 5 biliwn o bobl wylio Cwpan y Byd FIFA sy’n cael ei gynnal rhwng Tachwedd 20 a Rhagfyr 18, 2022. Mae llawer yn teimlo bod chwaraeon yn gallu gwneud llawer mwy na dim ond uno’r rhai sy’n gwylio.

  •   “Mae chwaraeon yn gallu newid y byd, maen nhw’n gallu ysbrydoli, ac maen nhw’n gallu uno pobl mewn ffordd unigryw.”—Nelson Mandela, cyn arlywydd De Affrica.

  •   “Mae pêl-droed yn uno pobl mewn gobaith, llawenydd, brwdfrydedd, a chariad. Mae’n gwneud i bobl deimlo fod ganddyn nhw rywbeth mewn cyffredin.”—Gianni Infantino, llywydd FIFA. a

 A all Cwpan y Byd, neu unrhyw chwaraeon arall, gyflawni rhywbeth mor fawr? Oes ’na unrhyw obaith am heddwch ac undod go iawn?

Oes ’na wir undod?

 Mae Cwpan y Byd eleni wedi tynnu sylw at fwy na phêl-droed yn unig. Mae’r gemau wedi sbarduno trafodaethau am faterion cymdeithasol a gwleidyddol o ran hawliau dynol, hiliaeth, ac annhegwch economaidd.

 Er hynny, mae llawer yn mwynhau gwylio chwaraeon rhyngwladol, fel Cwpan y Byd. Ond, ni waeth pa mor dda yw’r cymhellion, dydy digwyddiadau fel hyn ddim yn uno pobl yn barhaol. Maen nhw ond yn dangos bod llawer o bobl yn dweud ac yn gwneud pethau sy’n creu rhaniadau. Yn ôl y Beibl, dyna’n union fyddai’n digwydd yn ystod adeg o’r enw y “dyddiau olaf.”—2 Timotheus 3:1-5.

Gobaith go iawn am undod byd-eang

 Mae ’na obaith cadarn yn y Beibl am undod byd-eang. Mae’n addo y bydd pawb ar y ddaear yn unedig o dan lywodraeth nefol o’r enw ‘Teyrnas Dduw.’Luc 4:43; Mathew 6:10.

 Bydd Brenin y Deyrnas honno, Iesu Grist, yn sicrhau bydd ’na heddwch ledled y byd. Mae’r Beibl yn dweud:

  •   “Gwna i gyfiawnder lwyddo . . . ac i heddwch gynyddu.”—Salm 72:7.

  •   “Mae’n achub y rhai sy’n galw arno mewn angen . . . Mae’n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais.”—Salm 72:12, 14.

 Mae dysgeidiaethau Iesu eisoes wedi uno miliynau o bobl mewn 239 o wledydd. Maen nhw wedi dysgu i beidio â chasáu eraill. I wybod mwy, darllenwch y gyfres o erthyglau gyda’r teitl “Torri’r Cylch o Gasineb.”

a Fédération Internationale de Football Association, corff llywodraethol pêl-droed y byd.