BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Ydy’r Cyfryngau Cymdeithasol yn Niweidio Eich Plant?—Sut Gall y Beibl Helpu Rhieni?
“Mae problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc wedi troi’n argyfwng—ac mae’n amlwg mai un o’r prif resymau yw’r cyfryngau cymdeithasol.”—Dr. Vivek Murthy, surgeon general yr Unol Daleithiau, New York Times, 17 Mehefin, 2024.
Sut gall rhieni amddiffyn eu plant rhag peryglon y cyfryngau cymdeithasol? Mae’r Beibl yn rhoi cyngor ymarferol.
Help ar gyfer rhieni
Ystyriwch yr egwyddorion canlynol:
“Mae’r person call yn fwy gofalus.”—Diarhebion 14:15.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu cael dylanwad drwg ar blant, felly peidiwch â theimlo o dan bwysau i ganiatáu i’ch plant eu defnyddio. Cyn caniatáu i’ch plant ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr eu bod yn ddigon aeddfed i osod terfynau o ran amser, i gadw perthynas dda ag eraill, ac i osgoi pethau anaddas.
I ddysgu mwy, darllenwch yr erthyglau “A Ddylai Fy Mhlentyn Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol?” a “Dysgu Pobl Ifanc i Fod yn Ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol.”
“[Defnyddiwch] eich amser yn y ffordd orau.”—Effesiaid 5:16.
Os ydych chi’n caniatáu i’ch plant ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, peth da yw gosod rheolau, ac esbonio sut bydd dilyn y rheolau hynny yn eu cadw’n ddiogel. Byddwch yn effro i unrhyw newid o ran ymddygiad sy’n dangos bod angen rheoli’r ffordd maen nhw’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Defnyddiwch yr animeiddiad bwrdd gwyn Defnyddio Dy Ben Wrth Gymdeithasu Ar-Lein i helpu eich plant i weld pam mae’n bwysig cael rheolau.
Dysgwch fwy
Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni’n byw mewn cyfnod sy’n “hynod o anodd ac yn beryglus.” (2 Timotheus 3:1-5) Ond mae hefyd yn rhoi cyngor ymarferol sy’n gallu ein helpu ni i ymdopi. Mae rhestr o fwy na 20 o adnoddau i rieni a’u plant ar gael yn yr erthygl hon am iechyd meddwl pobl ifanc.