BYDDWCH YN WYLIADWRUS!
Drygioni yn Cynyddu ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
Mae gangiau yn rhemp yn Haiti. Mae troseddu treisgar yn bla yn Ne Affrica a Mecsico, a gwledydd eraill yn America Ladin. Hyd yn oed mewn llefydd lle mae trais wedi lleihau, mae pobl yn dal i deimlo’n bryderus o glywed newyddion am ladrata, tanau bwriadol, a fandaliaeth.
Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y drygioni sy’n digwydd ar draws y byd?
Beth ragfynegodd y Beibl am ddrygioni?
Mae’r Beibl yn dweud y byddai drygioni yn rhan o’r arwydd ein bod ni’n byw yn ystod ‘cyfnod olaf y system hon.’ (Mathew 24:3) Pan ddisgrifiodd Iesu Grist y digwyddiadau a fyddai’n rhan o’r arwydd hwnnw, dywedodd:
“Oherwydd bod drygioni yn cynyddu, bydd cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri.”—Mathew 24:12.
Dywedodd y Beibl hefyd y byddai pobl “heb hunanreolaeth, yn ffyrnig, heb gariad at ddaioni” yn y dyddiau olaf. (2 Timotheus 3:1-5) Mae nodweddion o’r fath yn cyfrannu at y drygioni rydyn ni’n ei weld heddiw.
Ond mae yna obaith. Mae’r Beibl yn addo y bydd drygioni yn dod i ben yn fuan.
“Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig! Byddi’n edrych amdanyn nhw, ond byddan nhw wedi mynd. Y rhai sy’n cael eu cam-drin fydd yn meddiannu’r tir, a byddan nhw’n mwynhau heddwch a llwyddiant.”—Salm 37:10, 11.
Dysgwch fwy am beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ein dyfodol a pham gallwn ni fod yn sicr bod y digwyddiadau o’n cwmpas yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl. Gwelwch yr erthyglau canlynol:
“Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell”
“Beth Yw Arwyddion y ‘Dyddiau Diwethaf’ neu’r ‘Cyfnod Olaf’?”
“A Wnaeth y Beibl Ragfynegi Meddylfryd ac Ymddygiad Pobl Heddiw?”