Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Beth Gwnaeth y Beibl ei Ragfynegi am Ddaeargrynfeydd Mawr?

Beth Gwnaeth y Beibl ei Ragfynegi am Ddaeargrynfeydd Mawr?

 Bob blwyddyn, mae miloedd ar filoedd o ddaeargrynfeydd yn taro. Er bod y mwyafrif yn fach, gall daeargrynfeydd mawr achosi dinistr, dioddefaint, a marwolaeth. Weithiau maen nhw’n achosi tswnamïau sy’n difetha ardaloedd ar lan y môr, ac o ganlyniad mae llawer o bobl sy’n byw yna yn cael eu lladd. A wnaeth y Beibl ragfynegi’r daeargrynfeydd mawr hyn?

Yn yr erthygl hon

 Ydy daeargrynfeydd wedi eu proffwydo yn y Beibl?

 Gwnaeth Iesu sôn am ddaeargrynfeydd mewn proffwydoliaeth sydd wedi ei chofnodi yn y Beibl. Gallwn ni ddarllen ei eiriau yn yr adnodau canlynol:

 “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.”Mathew 24:7.

 “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd daeargrynfeydd mewn gwahanol leoedd, a newyn. Dim ond y dechrau ydy hyn!”—Marc 13:8.

 “Bydd daeargrynfeydd mawr, a newyn a heintiau mewn gwahanol leoedd, a digwyddiadau dychrynllyd eraill ac arwyddion o’r nefoedd yn rhybuddio pobl.”—Luc 21:11.

 Rhagfynegodd Iesu y byddai “daeargrynfeydd mawr” mewn “gwahanol leoedd” yn digwydd ar yr un pryd â rhyfeloedd, newyn, a heintiau. Pan fyddai’r pethau hyn i gyd yn digwydd ar yr un pryd, byddai’n glir ein bod ni’n byw ar ddiwedd y system hon, neu yn y “cyfnod olaf.” (Mathew 24:3; 2 Timotheus 3:1) Yn ôl cronoleg y Beibl, dechreuodd y cyfnod olaf ym 1914 ac mae heb orffen eto.

 Ydy daeargrynfeydd yn ein hamser ni yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl?

 Ydy. Mae proffwydoliaeth Iesu, gan gynnwys beth ddywedodd am ddaeargrynfeydd yn digwydd nawr yn ein hoes ni. Ers 1914, mae ’na wedi bod mwy na 1,950 o ddaeargrynfeydd difrifol, sydd wedi lladd mwy na dwy filiwn o bobl. a Ystyriwch rai esiamplau o’r ganrif hon.

 2004—Cefnfor India. Gwnaeth daeargryn maint 9.1 achosi tswnami a darodd deuddeg gwlad a lladdodd tua 225,000 o bobl.

 2008—Tsieina. Gwnaeth daeargryn maint 7.9 ddinistrio pentrefi a threfi, a chredir bod 90,000 o bobl wedi cael eu lladd, 375,000 wedi eu hanafu, a miliynau wedi colli eu cartrefi.

 2010—Haiti. Gwnaeth daeargryn maint 7.0 a sawl ôl-gryniad cryf ladd mwy na 300,000 o bobl a gadael dros filiwn yn ddigartref.

 2011—Japan. Gwnaeth daeargryn maint 9.0 a’r tswnamïau a ddaeth yn ei sgil ladd tua 18,500 o bobl ac roedd rhaid i gannoedd o filoedd mwy adael eu cartrefi. Gwnaeth hyn wneud difrod i orsaf bŵer Fukushima, ac achosi trychineb niwclear. Deng mlynedd wedyn, dydy rhyw 40,000 o bobl dal ddim yn gallu mynd yn ôl i’w cartrefi yn agos i’r orsaf bŵer oherwydd lefelau uchel o lygredd ymbelydrol.

 Pam dylai proffwydoliaeth y Beibl am ddaeargrynfeydd fod o ddiddordeb inni?

 Mae proffwydoliaeth y Beibl am ddaeargrynfeydd yn ein gwneud ni’n ymwybodol o beth fydd yn digwydd yn y dyfodol agos. Dywedodd Iesu: “Pan fyddwch yn gweld y pethau yma’n digwydd, byddwch yn gwybod fod Duw ar fin dod i deyrnasu.”—Luc 21:31.

 Mae’r Beibl yn esbonio bod Teyrnas Dduw yn llywodraeth go iawn yn y nef gyda Iesu Grist yn Frenin arni. Dyma’r Deyrnas dysgodd Iesu i’w ddilynwyr weddïo amdani.—Mathew 6:10.

 Pan fydd Teyrnas Dduw yn rheoli dros y ddaear, bydd Duw yn sicrhau na fydd trychinebau naturiol fel daeargrynfeydd yn niweidio pobl bellach. (Eseia 32:18) Ac yn fwy na hynny, bydd Duw yn dad-wneud y niwed corfforol ac emosiynol sydd wedi ei achosi gan ddaeargrynfeydd. (Eseia 65:17; Datguddiad 21:3, 4) I ddysgu mwy, darllenwch yr erthygl “Beth Fydd Teyrnas Dduw yn ei Gyflawni?

a Mae’r ystadegau yn dod o’r Global Significant Earthquake Database sy’n cael ei wybodaeth o’r United States National Geophysical Data Center.