Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

mustafahacalaki/DigitalVision Vectors via Getty Images

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Deallusrwydd Artiffisial (AI)—Bendith Neu Felltith?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Deallusrwydd Artiffisial (AI)—Bendith Neu Felltith?—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Yn ddiweddar mae gwyddonwyr, technolegwyr, ac arweinwyr y byd wedi gwneud sylwadau am rym deallusrwydd artiffisial (AI). Er eu bod yn cydnabod ei werth, maen nhw hefyd yn poeni y gallai gael ei gamddefnyddio.

  •   “Mae AI yn un o’r technolegau mwyaf pwerus heddiw, gyda’r potensial i wella bywydau pobl . . . Ar yr un pryd, mae ganddo’r potensial i wneud y byd yn llawer llai diogel, i amharu ar hawliau sifil, ac i erydu hyder y cyhoedd a’u ffydd mewn democratiaeth.”—Kamala Harris, is-lywydd yr Unol Daleithiau, 4 Mai, 2023.

  •   “Er bod deallusrwydd artiffisial (AI) yn addawol o ran gwella gofal iechyd, y mae hefyd yn fygythiad i iechyd a lles mewn nifer o ffyrdd.” Dyna yw barn grŵp rhyngwladol o feddygon ac arbenigwyr ym maes gofal iechyd, dan arweiniad Dr. Frederik Federspiel, mewn erthygl a gyhoeddwyd ar 9 Mai, 2023, yn BMJ Global Health. a

  •   “Mae AI eisoes yn gallu cael ei ddefnyddio i ledaenu camwybodaeth. Cyn bo hir, fe allai ddwyn swyddi. Ac yn y dyfodol, mae rhai ym myd technoleg yn poeni y gallai beryglu’r ddynoliaeth.”—The New York Times, 1 Mai, 2023.

 Cawn weld a fydd AI yn cael ei ddefnyddio er da neu er drwg. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Pam mae ymdrechion dynol yn creu ansicrwydd?

 Mae’r Beibl yn dangos pam na all pobl sicrhau y bydd datblygiadau technolegol yn cael eu defnyddio er lles yn unig.

  1.  1. Hyd yn oed pan fydd gan bobl fwriadau da, fyddan nhw ddim bob amser yn rhagweld effeithiau negyddol yr hyn maen nhw’n ei wneud.

    •   “Mae yna ffordd o fyw sy’n edrych yn iawn i bobl, ond arwain i farwolaeth mae hi yn y pen draw.”—Diarhebion 14:12.

  2.  2. Ni all pobl reoli’r ffordd mae eraill yn defnyddio—neu’n camddefnyddio—eu gwaith.

    •   “Rhaid i mi adael y cwbl i’r un fyddai’n dod ar fy ôl i. A phwy a ŵyr fydd y person hwnnw’n ddoeth neu’n ffŵl? Ond bydd e’n dal i reoli’r holl gyfoeth dw i wedi gweithio mor galed amdano a defnyddio fy noethineb i’w gael.”—Pregethwr 2:18, 19.

 Mae’r fath ansicrwydd yn dangos pam mae angen arweiniad y Creawdwr arnon ni.

Pwy gallwn ni ddibynnu arno?

 Mae’r Creawdwr yn addo na fydd yn caniatáu i fodau dynol, na’r dechnoleg maen nhw’n ei chreu, ddinistrio’r ddaear na’r ddynoliaeth.

  •   “Mae’r ddaear yn aros am byth.”—Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

  •   “Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.

 Yn y Beibl, mae’r Creawdwr yn rhoi canllawiau inni a fydd yn arwain at ddyfodol heddychlon a diogel. I wybod mwy am beth mae’r Beibl yn ei ddweud, gweler yr erthyglau ““Y Gwir am y Dyfodol” a “Gobaith Go Iawn am Ddyfodol Gwell.”

a O’r erthygl “Threats by Artificial Intelligence to Human Health and Human Existence,” gan Frederik Federspiel, Ruth Mitchell, Asha Asokan, Carlos Umana, a David McCoy.