BYDDWCH WYLIADWRUS!
Mae’r Ddaear yn Cael ei Difetha—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
“Rydyn ni ar fin trychineb hinsawdd. Bydd dinasoedd mawr o dan ddŵr. Bydd ’na dywydd poethach nag erioed, stormydd ofnadwy, a phrinder dŵr mewn mwy o lefydd. A bydd miliwn o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid yn diflannu. Dydyn ni ddim yn gor-ddweud pethau; mae hyn yn ffaith. Dyma mae’r wyddoniaeth yn dweud wrthon ni fydd yn digwydd os nad ydyn ni’n newid y ffordd rydyn ni’n defnyddio egni.”—Anerchiad gan António Guterres, ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, yn sôn am adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd gafodd ei gyhoeddi ar Ebrill 4, 2022.
“Mae gwyddonwyr yn rhybuddio y bydd newid hinsawdd yn difetha bron iawn pob un o’r 423 o barciau cenedlaethol [yn yr Unol Daleithiau] cyn bo hir, oherwydd dydyn nhw ddim yn ymateb yn dda i dymheredd uchel. Mae’r rhestr o bethau drwg a allai ddigwydd yn swnio fel rhywbeth o’r Beibl: tân a llifogydd, iâ yn dadmer, lefelau’r môr yn codi, a thywydd eithafol o boeth.”—“Flooding Chaos in Yellowstone, a Sign of Crises to Come,” The New York Times, Mehefin 15, 2022.
Ydy hi’n bosib datrys problemau amgylcheddol y ddaear? Os felly, pwy fydd yn eu datrys? Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud.
Niwed i’r amgylchedd wedi ei ragfynegi
Mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn ‘dinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear.’ (Datguddiad 11:18) Mae’r adnod hon yn dysgu tri pheth inni:
1. Bydd pobl yn achosi niwed mawr i’r ddaear.
2. Fe fydd y dinistr yn dod i ben.
3. Duw, nid pobl, fydd yn datrys problemau amgylcheddol y ddaear.
Mae ’na ddyfodol disglair i’n planed
Mae’r Beibl yn dweud y bydd y “ddaear yn aros am byth.” (Pregethwr 1:4, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Felly bydd pobl yn byw arni am byth.
“Bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.”—Salm 37:29.
Bydd ein planed yn hollol iach unwaith eto.
“Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.”—Eseia 35:1.