Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Ddaw Llywodraethau Llwgr i Ben?

A Ddaw Llywodraethau Llwgr i Ben?

 Mae llygredd gan swyddogion llywodraeth yn broblem fyd-eang, ac mae’r canlyniadau yn ddifrifol. a Er enghraifft, yn ystod y pandemig COVID-19, cafodd swyddogion mewn un wlad ar ôl y llall eu cyhuddo o gyfoethogi eu hunain gydag arian a oedd i fod ar gyfer delio â’r pandemig. Effaith y llygredd oedd rhwystro pobl rhag cael y gofal iechyd roedden nhw eu hangen, a gyfrannodd at lawer yn dioddef a marw.

 Mae sgileffeithiau llywodraethau llwgr yn treiddio i bob man. Esboniodd David Cameron, cyn prif weinidog y Deyrnas Unedig, y broblem fel hyn: “Mae llygredd fel un we pryf cop fawr—ac mae pob gwlad wedi cael ei dal yn sownd ynddi.”

 Ond, gallwn ni fod yn sicr y bydd pob llygredd mewn llywodraethau yn dod i ben yn fuan. Pam? Sylwch beth mae’r Beibl yn dweud y bydd Duw yn ei wneud.

Pam gwyddon ni y bydd Duw yn gweithredu yn erbyn llygredd

 Mae’r Beibl wedi cofnodi safbwynt Duw ar y mater: “Fi ydy’r ARGLWYDD; dw i’n caru cyfiawnder, ac yn casáu gweld lladrata.” b (Eseia 61:8) Pan fydd pobl yn dioddef oherwydd llygredd eraill, mae Duw yn ymwybodol ohono. (Diarhebion 14:31) Mae’n addo: “Am fod yr anghenus yn dioddef trais, . . . dw i’n mynd i weithredu.”—Salm 12:5.

 Beth bydd Duw yn ei wneud? Yn hytrach na diwygio llywodraethau sy’n bodoli yn barod, bydd yn eu disodli gyda’i lywodraeth ei hun sydd yn y nef, sef “teyrnas Dduw” (Marc 1:14, 15, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; Mathew 6:10) Mae’r Beibl yn dweud: “Bydd Duw’r nefoedd yn sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio. . . . Bydd yn chwalu’r teyrnasoedd eraill, ac yn dod â nhw i ben. Ond bydd y deyrnas hon yn aros am byth.” (Daniel 2:44) Fel hyn, bydd Duw yn dod â’r llygredd a welwn ni heddiw i ben.

Llywodraeth heb lygredd

 Sut gwyddon na fydd llywodraeth Teyrnas Dduw yn mynd yn llwgr? Ystyriwch y canlynol.

  1.  1. Grym. Mae’r deyrnas yn cael ei grym gan yr Hollalluog Dduw.—Datguddiad 11:15.

     Pam mae’n bwysig: Er mwyn iddyn nhw allu gweithredu, mae llywodraethau dynol yn dibynnu ar eu dinasyddion am arian. Yn aml bydd hyn yn creu cyfleoedd am lwgrwobrwyo, lladrata, a dylanwadu ar rai mewn awdurdod. Ond, mae’r Deyrnas hon yn cael ei chefnogi gan yr Hollalluog Dduw, felly bydd hi wastad yn gallu darparu ar gyfer anghenion ei dinasyddion.—Salm 145:16.

  2.  2. Rheolwr. Mae Duw wedi penodi Iesu Grist yn rheolwr ar y Deyrnas.—Daniel 7:13, 14.

     Pam mae’n bwysig: Mae hyd yn oed y rheolwyr dynol gorau yn agored i ddylanwad amhriodol. (Pregethwr 7:20) Ar y llaw arall, mae Iesu wedi dangos nad ydy hi’n bosib i’w lwgrwobrwyo. (Mathew 4:8-11) Ar ben hynny, yr hyn sydd bob amser yn ei gymell yw cariad diffuant tuag at ei ddinasyddion, a’u lles nhw sy’n cael y flaenoriaeth ganddo.—Salm 72:12-14.

  3.  3. Cyfreithiau. Mae cyfreithiau Teyrnas Dduw yn berffaith, ac yn ein hadfywio.—Salm 19:7, 8.

     Pam mae’n bwysig: Mae cyfreithiau dynol yn aml yn gymhleth, yn faich, neu’n cael eu gorfodi yn wael, sy’n creu’r cyfleoedd ar gyfer llygredd. Ar y llaw arall, mae cyfreithiau Duw yn ymarferol ac yn fuddiol. (Eseia 48:17, 18) Ymhellach i hyn, nid yn unig y mae’r cyfreithiau hyn yn delio â gweithredoedd ond â chymhellion hefyd. (Mathew 22:37, 39) Wrth gwrs, gall Duw ddarllen calonnau a gwneud yn siŵr fod cyfreithiau o’r fath yn cael eu gweithredu â thosturi.—Jeremeia 17:10.

 Rydyn ni’n eich gwahodd i ddysgu mwy am addewid y Beibl am ddyfodol heb lywodraethau llwgr.

a Yn ôl un diffiniad, mae “llygredd” yn golygu camddefnyddio’r grym mae pobl yn ei roi iddyn nhw er mwyn eu helw eu hunain.

b Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?