Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

fcafotodigital/E+ via Getty Images

Figaniaeth—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Figaniaeth—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Mae diddordeb mawr mewn figaniaeth mewn gwledydd o gwmpas y byd.

  •   “Mae figaniaeth yn gred athronyddol ac yn ffordd o fyw sy’n ymwrthod—i’r graddau y mae’n bosibl neu’n ymarferol—ag unrhyw arfer sy’n manteisio’n annheg ar anifeiliaid neu sy’n greulon wrthyn nhw, boed hynny ar gyfer bwyd, dillad, neu at unrhyw ddiben arall.”—The Vegan Society.

 Mae pobl yn troi at figaniaeth nid yn unig oherwydd eu cariad tuag at anifeiliaid, ond hefyd am resymau sy’n ymwneud â’r amgylchedd, iechyd, neu grefydd.

  •   “Yn wahanol i’r rhan fwyaf o ddewisiadau deietegol, mae figaniaeth yn cael ei hystyried yn gred athronyddol, yn ddewis moesol, ac yn ffordd i unigolion weithredu er mwyn newid y byd er gwell.”—Britannica Academic.

 Ai figaniaeth yw’r ffordd i sicrhau dyfodol gwell i’r blaned? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Safbwynt y Creawdwr ar bobl ac anifeiliaid

 Mae’r Beibl yn dangos bod y Creawdwr, Jehofa Dduw, a yn gweld pobl yn uwch nag anifeiliaid, a’i fod wedi rhoi awdurdod dros anifeiliaid i fodau dynol. (Genesis 1:27, 28) Yn y pen draw, rhoddodd Duw ganiatâd i bobl fwyta anifeiliaid. (Genesis 9:3) Sut bynnag, nid yw’n esgusodi creulondeb at anifeiliaid.—Diarhebion 12:10.

 Yn ôl y Beibl, penderfyniad personol yw bwyta cig neu beidio. b Nid yw ein dewis yn ein gwneud ni’n bobl well yng ngolwg Duw. (1 Corinthiaid 8:8) Ni ddylai neb farnu eraill ar sail y pethau maen nhw’n dewis eu bwyta.—Rhufeiniaid 14:3.

Y ffordd i ddyfodol gwell

 Mae’r Beibl yn dangos na fydd ein dewisiadau personol o ran ein ffordd o fyw yn datrys problemau’r byd. Mae llawer o’r problemau yn deillio o ddiffygion yn systemau gwleidyddol, cymdeithasol, ac economaidd y byd, ac mae’r rheini y tu hwnt i’w hadfer. Mae’r Beibl yn dweud:

  •   “Does dim modd sythu rhywbeth sydd wedi ei blygu.”—Pregethwr 1:15.

 Bydd y Creawdwr yn datrys y problemau y mae’r byd yn eu hwynebu. Mae’r Beibl yn defnyddio iaith ffigurol i ddisgrifio beth mae Duw’n mynd i’w wneud.

  •   “Ac fe welais nef newydd a daear newydd; oherwydd roedd yr hen nef a’r hen ddaear wedi diflannu, a dydy’r môr ddim yn bodoli mwyach.”—Datguddiad 21:1.

 Bydd Duw yn cael gwared ar “yr hen nef,” sef y llywodraethau dynol, a rhoi “nef newydd,” sef llywodraeth nefol y Deyrnas yn ei le. Bydd ei Deyrnas yn cael gwared ar yr “hen ddaear,” sef y rhai drwg, a rheoli dros ‘ddaear newydd,’ sef y rhai sydd eisiau byw o dan ei hawdurdod.

 Dim ond o dan lywodraeth Teyrnas Dduw y bydd pobl yn dysgu sut i fyw mewn ffordd sy’n gofalu am anifeiliaid ac am yr amgylchedd.—Eseia 11:6-9.

a Jehofa yw enw personol Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

b Mae’r Beibl yn gorchymyn inni ‘wrthod . . . gwaed.’ (Actau 15:28, 29) Mae hyn yn golygu na ddylen ni fwyta cig sydd heb ei waedu, na bwyd sydd â gwaed yn un o’r cynhwysion.